Mwy o gyfleoedd proffesiynol i raddedigion cyfrifeg

05 Chwefror 2016

Bydd graddedigion cyfrifeg o Brifysgol Aberystwyth yn gymwys i gael eu heithrio o fwy o arholiad proffesiynol Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig (ACCA) o haf eleni.

Bydd myfyrwyr o Aberystwyth sydd eisiau paratoi ar gyfer statws cyfrifydd cymwysedig yn awr yn gymwys i gael eu heithrio o hyd at 7 o arholiadau proffesiynol yr ACCA, un yn fwy nag o'r blaen.

Daw'r datblygiad ar ôl i’r ACCA adnewyddu achrediad gradd BSc Cyfrifeg a Chyllid (N400) yr Ysgol Rheolaeth a Busnes am 5 mlynedd arall, tan y 31ain o Ragfyr, 2020.

Ac am y tro cyntaf, bydd myfyrwyr ar y rhaglen radd BSc Cyllid Busnes (N310) hefyd yn gymwys am hyd at 6 eithriadau ACCA.

Bydd myfyrwyr sy'n dewis astudio cyfrifeg ar y cyd â phynciau eraill yn y celfyddydau, y dyniaethau neu'r gwyddorau hefyd yn gymwys gael eu heithrio o rai o arholiadau’r ACCA, yn dibynnu ar eu dewis o fodiwlau.

Dywedodd Yr Athro Mike Christie, Pennaeth yr Ysgol Rheolaeth a Busnes: "Rydym yn falch iawn gyda chanlyniad proses achredu ACCA sy'n tanlinellu ansawdd yr addysgu yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac a fydd o fudd mawr i'n graddedigion.

"Mae'r ACCA yn cael ei ystyried yn un o'r cyrff mwyaf arwyddocaol yn y byd ym maes cyfrifeg, ac mae ei gymwysterau yn cael eu cydnabod ar draws y byd. Mae'r achrediad newydd yn cadarnhau ein bod yn canolbwyntio ar baratoi ein myfyrwyr ar gyfer mynediad i broffesiwn cyfrifeg, ac mae'r eithriadau lefel Sylfaen yma yn rhoi mantais sylweddol iddynt pan fyddant yn graddio. "

"Gall arholiadau proffesiynol lefel sylfaen gyda'r ACCA gymryd hyd at ddwy flynedd i'w cwblhau. Gyda'r eithriadau hyn, bydd ein graddedigion yn gallu camu ymlaen i'r lefel nesaf yn gyflym iawn. "

Mae'r graddau BSc Cyfrifeg a Chyllid a BSc Cyllid Busnes yn rhaglenni tair blynedd gyda'r opsiwn o flwyddyn mewn diwydiant rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Ychwanegodd yr Athro Christie: "Byddem yn sicr yn annog ein myfyrwyr i wneud y gorau o'r cyfle o weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Mae ein profiad yn dangos fwyfwy bod myfyrwyr sy'n dewis gwneud hyn yn elwa o ran eu datblygiad a’u rhagolygon cyflogadwyedd."

Mae'r achrediad ACCA hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy'n astudio ar Gampws Cangen Mawrisiws.

Mae'r Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth wedi ei hachredu gan y prif gyrff cyfrifeg, gan gynnwys: Y Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) a Chymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig (ACCA).

AU3916