Hanesydd yn arwyddo cytundeb i gyhoeddi llythyron George Whitefield

George Whitefield tua'r 1750au. Priodolwyd y llun i Joseph Badger Harvard

George Whitefield tua'r 1750au. Priodolwyd y llun i Joseph Badger Harvard

08 Chwefror 2016

Mae hanesydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr David Ceri Jones, wedi arwyddo cytundeb o bwys i gyhoeddi gohebiaeth George Whitefield (1714-1770), y diwygiwr efengylaidd traws-Iwerydd o’r ddeunawfed ganrif.

Bydd llythyron Whitefield yn cael eu cyhoeddi yn llawn am y tro cyntaf yn sgil y cytundeb sydd wedi ei lofnodi gyda’r cyhoeddwr academaidd blaenllaw Gwasg Prifysgol Rhydychen.

Bydd y gyfrol gyntaf, a gyd-olygwyd gan Dr Jones a Dr Geordan Hammond, yn cael ei chyhoeddi yn 2018, a bydd chwe chyfrol arall y ymddangos bob deunaw mis wedi hynny.

Yn 2014 dyfarnwyd £115,527 i Dr Jones, sy’n Ddarllenydd mewn Hanes Cymru a’r Iwerydd yn Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth, gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i astudio'r mudiad efengylaidd cynnar trwy ailasesiad o fywyd, cyd-destun ac etifeddiaeth Whitefield.

Mewn cydweithrediad gyda’r cynorthwyydd ymchwil Dr Geordan Hammond, mae Dr Jones wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn dod o hyd i, casglu a chopïo'r 3000 o lythyrau a ysgrifennwyd gan Whitefield rhwng 1735 a'i farwolaeth yn 1770.

Roedd y dasg o ddod o hyd i bob un o’r llythyron a chael copïau ohonynt yn un fawr gan eu bod mewn hyd at 60 o gasgliadau ym Mhrydain, Gogledd America a’r Almaen.

Dywedodd Dr Jones: "Mae ymrwymiad Gwasg Prifysgol Rhydychen i gyhoeddi gohebiaeth Whitefield dros y degawd nesaf yn ymgymeriad mawr a chyffrous."

"Gallai ymddangosiad y llythyron mewn print am y tro cyntaf nid yn unig chwyldroi ein dealltwriaeth o Whitefield a mudiad efengylaidd y ddeunawfed ganrif, ond hefyd deinameg mewnol byd yr Iwerydd, a chysylltiadau rhwng Prydain ac America ar drothwy’r Chwyldro."

Roedd Whitfield, sydd i raddau helaeth yn angof tu hwnt i gylchoedd crefyddol, yn un o ffigurau cyhoeddus mwyaf adnabyddus canol y ddeunawfed ganrif, ac yn sicr ei diwygiwr efengylaidd mwyaf enwog a'r un a deithiodd fwyaf.

Ag yntau’n offeiriad Anglicanaidd, ysbrydolodd Whitefield fudiad adnewyddu Protestannaidd yn sgil ei bregethu carismatig - yn aml i dorfeydd mawr yn yr awyr agored ledled Prydain, ac ym mron ym mhob tref ar hyd arfordir dwyreiniol y trefedigaethau Americanaidd.

Roedd Whitefield hefyd yn ffigur arwyddocaol yn y cyd-destun Cymreig: arweiniodd y mudiad Methodistaidd Calfinaidd a sefydlodd mewn partneriaeth â'r Methodistiaid Cymreig at dynnu’r Cymry i mewn i Fyd yr Iwerydd y ddeunawfed ganrif.

Gan ei fod yn pontio’r Hen Fyd a'r Newydd, ar adegau yr oedd Whitefield yn ymddangos fel petai’n cyfiawnhau ei lysenw: 'apostol Ymerodraeth Lloegr'; ac eto gallai hefyd gael ei weld fel un o ysbrydolwyr y Chwyldro Americanaidd, gan ddod â'r tri ar ddeg o’r trefedigaethau Americanaidd at ei gilydd am y tro cyntaf o dan ymbarél y 'Y Deffroad Mawr'. Yn ffigwr cynhennus yn ystod ei oes, mae Whitefield yn parhau i begynnu barn.

AU4016