Myfyrwyr cyntaf yn derbyn Ysgoloriaeth Angen a Theilyngdod Peter Hancock

O chwith i'r dde: Is-ganghellor April McMahon, Olu Ashiru, Sabine Klein, Denitsa Peneva,George Jones, Uwch Ymgynghorydd Myfyrwyr, a Chyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Louise Jagger. Mae Olu, Sabine a Denitsa yn dal llun o sefydlwyr yr ysgoloriaeth, Peter Hancock a Patricia Pollard.

O chwith i'r dde: Is-ganghellor April McMahon, Olu Ashiru, Sabine Klein, Denitsa Peneva,George Jones, Uwch Ymgynghorydd Myfyrwyr, a Chyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Louise Jagger. Mae Olu, Sabine a Denitsa yn dal llun o sefydlwyr yr ysgoloriaeth, Peter Hancock a Patricia Pollard.

17 Chwefror 2016

Sabine Hein, Olu Ashiru a Denitsa Peneva yw derbynwyr cyntaf Cronfa Ysgoloriaeth Angen a Theilyngdod Peter Hancock a lansiwyd ym mis Tachwedd 2015 i ddyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr teilwng, anghenus Blwyddyn 2 Anrhydedd neu gyfwerth mewn unrhyw ddisgyblaeth ac o unrhyw genedl ac sy'n dangos potensial i fod o fudd i gymdeithas drwy gwblhau eu Graddau Anrhydedd neu gyfwerth yn llwyddiannus.’

Cafodd y gwaddol rhodd fawr sy'n werth dros £500,000 gan y cyn-fyfyrwyr a thrigolion Seland Newydd Peter Hancock a'i wraig Patricia Pollard (née Trevitt) ei wneud fel diolch am yr ysgoloriaeth a ddyfarnwyd i Peter 54 o flynyddoedd yn ôl ac a arweiniodd at yrfa academaidd a busnes llwyddiannus,

Mae Sabine, o Gaergrawnt, sydd ar hyn o bryd yn ei blwyddyn olaf yn Aberystwyth, yn astudio Bioleg Planhigion yn dweud bod derbyn yr ysgoloriaeth yn golygu y gall hi ddatblygu ei gyrfa wyddonol. "Mae'r Ysgoloriaeth yn golygu y gallaf gyfoethogi fy astudiaethau ymhellach mewn gwahanol ffyrdd a sicrhau bod fy nhymor olaf yn Aberystwyth yn mynd yn ei flaen yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd rwy'n ymchwilio i sut y gallwn ddefnyddio planhigion i drin ac atal clefydau dynol fel clefyd Alzheimer; clefyd niwro-ddirywiol. Fy nod yw astudio gwyddorau phyto-fferyllol ar lefel ôl-radd. Yn y dyfodol rwy’n mawr obeithio y gallaf efelychu haelioni Peter a helpu eraill yn yr un modd.

Mae Olu, o Keighley, Gorllewin Swydd Efrog hefyd yn fyfyriwr blwyddyn olaf mewn Cyfrifiadureg. Meddai: "Diolch i'r Ysgoloriaeth, gallaf ganolbwyntio ar orffen fy ngradd Cyfrifiadureg, gan dreulio mwy o amser ar fy nhraethawd hir a llai yn gweithio’n rhan-amser sy’n gallu tynnu fy sylw oddi ar fy ngwaith academaidd.

Mae Denitsa, sydd yn wreiddiol o Fwlgaria yn astudio tuag at ei gradd mewn Seicoleg. Meddai hi: "Roedd meddwl am ansefydlogrwydd ariannol wedi amharu ar fy nghymhelliant a hyder ac yn effeithio ar fy awydd i astudio. Mae'r Ysgoloriaeth wedi newid hynny, mae'n rhoi Sylfaen gadarn i mi a phared i bwyso arno fel gallaf ganolbwyntio ar fy ngradd. Mae wedi rhoi ymdeimlad o sicrwydd a hapusrwydd i mi oherwydd bod rhywun yn credu digon ynof i gynnig y math hwn o gymorth i mi."

Roedd y panel dyfarnu yn cynnwys yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro, Caryl Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, George Jones, Ymgynghorydd Myfyrwyr, Louise Jagger, Cyfarwyddwr DARO, Lewis Donnelly, Llywydd Undeb y Myfyrwyr a Ieuan Gregory, Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr a Steve Lawrence, Llywydd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Yn yr un modd, roedd gan Peter a Pat ran allweddol wrth benderfynu pwy fyddai’n derbyn yr ysgoloriaethau.

Graddiodd Peter Hancock o Aberystwyth mewn Daeareg yn 1962. Roedd ei yrfa mewn llywodraeth, diwydiant ac ymgynghoriaeth fel periannydd a daearegydd archwilio yn Awstralia, Seland Newydd, UDA a Chanada yn cynnwys darganfod adnoddau mwynau newydd ac ymchwilio.

Mae wedi bod yn athro, darlithydd, ymchwilydd ac awdur ar y canfyddiadau a gwirioneddau datblygu adnoddau, gan arwain at yrfa yn ddiweddarach fel hwylusydd yn datrys gwrthdaro ar ddatblygu adnoddau amgylcheddol, a materion hiliol ac anfantais brodorol.

Meddai Peter: "Yr elfen allweddol drwy gyflwyno’r rhodd hon yw rhoi rhywbeth yn ôl i fywyd myfyriwr ac i’r Brifysgol a roddodd, hanner canrif yn ôl gymaint i mi yn academaidd, yn gymdeithasol ac o ran datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth a busnes. Ar yr un pryd, rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth drwy ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol, sydd mewn angen er mwyn eu galluogi i ddechrau gyrfaoedd gwerth chweil sy'n cyfrannu at gymdeithas ac felly, yn eu tro, yn helpu pobl eraill."

Ychwanegodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn Aberystwyth: "Mae'r Gronfa Ysgoloriaeth Angen a Theilyngdod Peter Hancock yn golygu llawer mwy na dim ond cymorth ariannol i'r rhai mewn angen. Fe’i datblygwyd gyda Peter a Pat i sicrhau y bydd yn hyrwyddo blaenoriaethau'r Brifysgol o lwyddiant myfyrwyr, rhagoriaeth ac o weithio i gefnogi a chadw myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol. Roedd gan Peter a Pat rôl weithredol wrth ddethol y derbynwyr a byddant yn cefnogi pob un o'r tri drwy gyfleoedd mentora a rhwydweithio un-i-un a fydd yn rhoi’r hwb sydd i’w hangen arnynt i wneud y gorau o'u gallu academaidd.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Peter a Pat am eu cefnogaeth hael i’n myfyrwyr. Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir o weithio mewn partneriaeth â chyn-fyfyrwyr i gefnogi ei myfyrwyr ac i hybu uchelgais y Brifysgol, a gwn y byddant yn ysbrydoli nifer o blith y gymuned o 60,000 o gyn-fyfyrwyr o gwmpas y byd gyda’u cefnogaeth ddyngarol a gweithgar."

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer yr ail garfan o fyfyrwyr sydd:

  • Mewn perygl o fethu â symud ymlaen i a/neu gwblhau eu blwyddyn olaf o astudiaethau neu yn y fath anhawster ariannol fel y bydd yn cael effaith sylweddol ar eu hastudiaethau.
  • Â'r potensial i gyflawni Gradd Anrhydedd 2: 1 neu well

Y dyddiad cau yw 24 Chwefror 2016. Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa’r Ysgoloriaeth, y ffurflen gais a’r broses ymgeisio, a Chwestiynau Cyffredin defnyddiol ar wefan Cymorth i Fyfyrwyr.

AU4516