Sut wnaeth Cymru ofalu am 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf?

Adeilad Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

Adeilad Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

16 Chwefror 2016

Mae Sefydliad Coffa David Davies yn Adran Gwleidyddiaeh Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnal darlith gyhoeddus ar ymateb Cymru i Argyfwng y Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar nos Fercher 17 Chwefror.

Bydd y ddarlith, sy’n cael ei chynnal ar y cyd â Cymru dros Heddwch, yn dechrau am 6 yr hwyr ym Mhrif Ddarlithfa’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae’r siaradwr gwadd, sef Christophe Declercq sy’n ddarlithydd yn UCL, wedi bod yn ymchwilio i hanes y ffoaduriaid Belgaidd ers dros ddegawd, ac mae'n swyddog cyswllt y DU ar gyfer prosiect a drefnir ar hyn o bryd gan Sefydliad Hanes Cymdeithasol Amsab, sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Ghent, Gwlad Belg. 

Meddai: “Myfyrio ar y gorffennol i oleuo’r presennol yw pwrpas hanes.  Bydd y broses hon o rannu gwybodaeth rhwng Gwlad Belg a Chymru yn gwella ein dealltwriaeth o hanes y Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yng nghyd-destun argyfwng ffoaduriaid newydd sy'n dod i'r amlwg yn Ewrop, 100 mlynedd yn ddiweddarach. Roeddwn yn falch iawn i ymateb i'r cyfle hwn i rannu fy ngwaith ymchwil drwy'r prosiect Cymru dros Heddwch, yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.”

Daeth dros 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg i Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adael eto erbyn 1919 gydag ychydig iawn o olion ar wahân i waith celf, crefft a gwaith adeiladu sydd yn dal i gael eu gwerthfawrogi yng Nghymru heddiw. Mae'r rhain yn cynnwys y croglun wedi’i gerfio yn eglwys Llanwenog, y Pier Belgaidd ym Mhorthaethwy ac o’r arwyddocâd cenedlaethol mwyaf, cerfwaith cywrain ‘Cadair Ddu’ Eisteddfod Genedlaethol 1917, a ddyfarnwyd i’r bardd Hedd Wyn a fu farw ynghynt yn Passchendaele.

Eglurodd Declercq y cefndir: “Mae sylw ar breswyliad oddeutu chwarter miliwn o Felgiaid ym Mhrydain wedi ei esgeuluso yn rhy hir. Mae llu o resymau am hyn. Yn bwysicaf oll, daeth y Belgiaid i mewn mor ddiffwdan ag yr ymadawsant. Erbyn canol 1919, roedd bron pob un wedi dychwelyd i Wlad Belg. Pan oresgynnwyd Gwlad Belg gan yr Almaen ar 4 Awst 1914, cyhoeddodd Prydain ryfel ar yr Almaen. Yn ystod yr wythnosau canlynol, bu ymladd ffyrnig ar draws tiriogaeth Gwlad Belg gan greu symudiad torfol o ddinasyddion a ddaeth i ben gyda chwymp Ostend (15 Hydref) a Brwydr Gyntaf Ypres (19 Hydref - 22 Tachwedd). Yn wir, yn nechrau hydref 1914, ceisiodd bron un o bob tri Belgiad loches rhag y rhyfel.”

Ychwanegodd pennaeth y prosiect Cymru dros Heddwch, Craig Owen: “Un o elfennau cyffrous y prosiect Cymru dros Heddwch yw mapio effaith rhyfel a chasglu treftadaeth heddwch Cymru. Gyda chymorth gwirfoddolwyr ar draws Cymru, ac mewn partneriaeth gyda’r brifysgol a Chasgliad y Werin Cymru, mae diddordeb gennym mewn datguddio hanesion ac archifau lleol sy'n gysylltiedig â'r profiad Cymreig-Belgaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae cyfraniad Christophe Declercq gyda’r prosiect ymchwil Belgaidd hwn, yn darparu cyfle i estyn y bartneriaeth er mwyn rhannu darganfyddiadau yn ddigidol, i adlewyrchu ar faterion cyfredol sy'n gysylltiedig â derbyn ffoaduriaid, a chryfhau'r cysylltiadau Cymru-Gwlad Belg.

Arddangosfa a Darlithoedd Cofio dros Heddwch

Bydd y Ddarlith Gyhoeddus yn cyd-fynd ag Arddangosfa Cymru dros Heddwch sef "Cofio dros Heddwch" yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, tan 16 Ebrill. Mae rhagor o Ddarlithoedd Cyhoeddus wedi’u cynllunio ar ddyddiau Mercher, a bydd y ddarlith nesaf yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ar Wrthwynebwyr Cydwybodol Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan Aled Eurig am 4:30pm ar yr 2il o Fawrth, 2016, canrif ar ôl i'r Ddeddf Gwasanaeth Milwrol ddod i rym.

Yn y Morlan, Aberystwyth am 2pm ar yr 16eg o Fawrth fydd y ddarlith olaf gan Rupert Gude ar yr ogwydd Prydeinig i Wrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a mudiadau megis yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch? Prosiect treftadaeth yw Cymru dros Heddwch, sy’n gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru; mae’r prosiect hefyd yn edrych tua’r dyfodol o ran ysgogi trafodaethau sy’n ymwneud â materion heddwch er lles cenedlaethau’r dyfodol.

AU5716