Enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ar agor

Logo y GDDAM

Logo y GDDAM

19 Chwefror 2016

Mae’r adeg honno o'r flwyddyn wedi cyrraedd eto pan fydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael y cyfle i enwebu a chydnabod gwaith staff a myfyrwyr y Brifysgol.

Bellach yn eu pumed blwyddyn, mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr (SLTAs) yn uchafbwynt yng nghalendr y Brifysgol, gan gydnabod aelodau staff, cynrychiolwyr myfyrwyr ac adrannau eithriadol mewn deg categori.

Mae categori newydd eleni: gwobr am ragoriaeth mewn dysgu a gyfoethogwyd drwy dechnoleg.

Bydd y Gwobrau yn cael eu cyflwyno mewn seremoni fawreddog a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr ac a gefnogir gan y Brifysgol ar nos Wener 22 Ebrill.

Meddai Lauren Marks, Swyddog Addysg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth:

“Rydym yn awyddus i glywed am yr holl ddarlithwyr a thiwtoriaid ysbrydoledig, staff an-academaidd gwych a chynrychiolwyr myfyrwyr rhagorol sydd o gwmpas y Brifysgol. Y llynedd, cawsom dros 1000 o enwebiadau gan fyfyrwyr, yn dweud wrthym am y bobl ddawnus ac ymroddgar a aeth gam ymhellach i wneud eu profiad yma'n wych.”

Ychwanegodd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro: "Mae hon yn fenter ragorol ar ran Undeb y Myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn ansawdd ei staff, a pha ffordd well o gydnabod hynny na rhoi cyfle i fyfyrwyr leisio eu barn ar pwy sy'n eu hysbrydoli ac sy’n gwneud eu profiad prifysgol yn Aberystwyth mor arbennig.

Mae’r enwebiadau ar agor ar-lein yn y categorïau canlynol, tan 13 Mawrth.

  1. Gwobr Addysgu Rhagorol
  2. Cyfraniad Eithriadol i Fywyd y Brifysgol
  3. Staff Cymorth y Flwyddyn
  4. Gwobr am Ragoriaeth mewn Addysg Gymraeg
  5. Gwobr Athro Ôl-raddedig
  6. Gwobr am ragoriaeth mewn dysgu a gyfoethogwyd drwy dechnoleg.
  7. Tiwtor Personol y Flwyddyn
  8. Goruchwyliwr y Flwyddyn
  9. Cynrychiolydd Myfyriwr y Flwyddyn
  10. Adran y Flwyddyn

Gall enwebiadau gael eu cyflwyno ar-lein yma.