Dyma Hugh, y llyfrgellydd robot

Pasi William Sachiti (chwith) a Ariel Ladegaard (de)a prototeip cynnar o Hugh,y llyfrgellydd robot.

Pasi William Sachiti (chwith) a Ariel Ladegaard (de)a prototeip cynnar o Hugh,y llyfrgellydd robot.

25 Chwefror 2016

Gallai myfyrwyr sy’n chwilio am lyfrau llyfrgell ym Mhrifysgol Aberystwyth fod yn troi at robot am gymorth cyn hir.

Crëwyd Hugh y llyfrgellydd robot gan ddau fyfyriwr sy’n astudio roboteg, Pasi William Sachiti ac Ariel Ladegaard.

Cafodd ei gynllunio i dderbyn gorchmynion llais, ac mi fydd Hugh yn medru dweud ble mae’r llyfr ac yna arwain y myfyriwr i’r silff berthnasol.

Mae’n gyfuniad o dechnoleg robot sydd eisoes yn bodoli a gwybodaeth o PRIMO, catalog llyfrau ar lein y Brifysgol, a bydd Hugh yn gatalog llyfrgell sy’n siarad ac yn cerdded a gyda mynediad i 800,000 o lyfrau.

Bydd Pasi ac Ariel yn cyflwyno eu prototeip yn Sioe Dangos a Dweud y BCS ym Mhrifysgol Aberystwyth ar nos  Wener 26 Chwefror ac maent wedi gwahodd eu cyd fyfyrwyr ym meysydd roboteg a deallusrwydd artiffisial i gyfrannu at ddatblygiad y prosiect dros y misoedd nesaf.

“Y cam nesaf yw edrych ar sut mae'n symud o gwmpas heb daro i mewn i bobl a dodrefn y llyfrgell, sut y mae'n darganfod ble mae'r llyfrau, sut mae'n dehongli gorchmynion llais, sut y mae'n dangos y wybodaeth, a sut mae’n edrych”, meddai Ariel . "Ac wrth gwrs, mewn awyrgylch dawel, megis llyfrgell, dylai gael ei lais ei hun?"

Yn ôl Pasi, sydd wedi ymddangos ar gyfres y BBC, Dragon’s Den, mi fydd llwyddiant Hugh yn ddibynnol  ar gadw pethau’n syml.

"Fel mae llawer sy'n defnyddio apps ffonau symudol yn gwybod, mae mwy o bobl yn debygol o ddefnyddio ap sy’n syml. Rydym wedi mabwysiadu’r un athroniaeth gyda Hugh; ei waith ef fydd gwrando ar eich cais, dod o hyd i'r llyfr ac yn mynd â chi yno ", meddai.

Yn ol Pasi, Hugh yw’r cyntaf mewn llinach o ‘robotiaid cyfyng eu deallusrwydd’ a fydd yn gallu ymgymryd â thasgau penodol mewn amgylcheddau fel ysbytai, cartrefi gofal neu archfarchnadoedd.

Meddai Elizabeth Kensler, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chysylltiadau Academaidd yn Adran Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae llyfrgelloedd bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio technoleg er mwyn  gwella'r gwasanaethau maent yn eu darparu ac mae enghreifftiau llwyddiannus o atebion technolegol sy’n ategu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan staff ym mhob llyfrgell. Fodd bynnag, gallai llyfrgellydd robot sy'n dod o hyd i lyfr a mynd â chi at y silff berthnasol fod y cyntaf o’i fath yn y byd.”

"Mae ymateb staff i'r gwaith sydd wedi ei wneud gan Pasi ac Ariel wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddynt brofi'r prototeip dros y misoedd nesaf. Bydd yn ddiddorol iawn gweld sut mae myfyrwyr yn ymwneud ag ef, yn enwedig siarad gyda'r robot mewn ardal astudio dawel."

Gobaith Pasi ac Ariel yw y bydd robot sy’n gweithio yn ei le i gyfarch y garfan newydd o fyfyrwyr ym Medi 2016.

Cynhelir digwyddiad Dangos a Deud Celf Tech a BCS yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar nos Wener 26 Chwefror o 18:00 tan 20:00

I gael gwybod mwy am Hugh ewch i http://www.hugh.ai/

Pasi William Sachiti
Yn wreiddiol o Zimbabwe, mae Pasi’n disgrifio’i hun fel "mentrwr cyfresol". Mae’n fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ar y cwrs Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial ac wedi ymddangos ar y rhaglen Dragon’s Den i hyrwyddo’r cysyniad o finiau deallus.  Cafodd ei gwmni diweddaraf ei brynu gan Secret Escapes, cwmni sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Google. Cafodd Pasi ei ddenu i Brifysgol Aberystwyth gan ei bod yn un o’r ychydig brifysgolion sy’n cynnig gradd mewn Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial. Cafodd ei ddenu hefyd am fod polisi Eiddo Deallusol y Brifysgol yn cydnabod creadigrwydd myfyrwyr a’r Eiddo Deallusol mae’nt yn ei greu tra ar y cwrs – gweler y polisi llawn yma.

Ariel Ladegaard
Yn wreiddiol o Bergen ar arfordir gorllewinol Norwy, mae Ariel yn astudio Gwyddor y Gofod a Roboteg. Bu’n astudio gwyddor y gofod yn y coleg, cyn cyfnod o wasanaeth milwrol, ac yna gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu. Wedi nifer o flynyddoedd yn gweithio, penderfynodd ddychwelyd at yr hyn yr oedd wedi bod eisiau ei wneud ar hyd yr amser, astudio roboteg y gofod.  Ar ôl graddio, mae’n gobeithio gweithio yn y diwydiant roboteg y gofod.  Wrth son am Aberystwyth, dywedodd Ariel: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd i weithio ar brosiectau fel Hugh a phrosiectau robot eraill megis y prosiect Sailbot. Hyd yn oed yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cael mynediad i rai o'r cyfleusterau ymchwil y labordy roboteg, ac rydych yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi gan y staff."

Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth
Ar sail canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, mae Adran Cyfrifiadureg Aberystwyth yn 11eg yn y Deyrnas Gyfunol gan y Times Higher Education. Am fwy o wybodaeth am ymchwil Roboteg Ddeallusol yn yr Adran, cliciwch yma.

AU5616