Gwobr ryngwladol i bartner consortiwm bio a arweinir gan Aberystwyth

31 Mawrth 2016

Reverdia, un o'r partneriaid arweiniol yng nghonsortiwm ADMIT Bio-SuccInnovate, yn ennill 'Partneriaeth Cemegol Bio-Seiliedig y Flwyddyn'.

Gwobr Myfyriwr Llaeth y Flwyddyn i fyfyriwr o IBERS

30 Mawrth 2016

Cennydd Jones yn cipio’r ail wobr yng nghystadleuaeth Myfyriwr Llaeth y Flwyddyn yr RABDF MSD Animal Health.

Lansio Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig

24 Mawrth 2016

Golyga sefydlu’r ganolfan newydd y bydd y Brifysgol yn cydweithio gyda Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

£272,000 i hanesydd i astudio gwaith gwleidyddol Richard Brinsley Sheridan

23 Mawrth 2016

Martyn Powell, Athro Hanes Iwerddon Fodern, i astudio gwaith gwleidyddol y dramodydd, perchennog theatr, Aelod Seneddol a’r 'spin-doctor' a aned yn Iwerddon.

Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn dringo i’r 100 gorau yn y byd

22 Mawrth 2016

Aberystwyth yw un o’r 100 prifysgol orau yn y byd ar gyfer astudio Daearyddiaeth yn ôl cynghrair pynciau'r QS World University Rankings.

Cydweithio gyda Brasil i ymladd clefyd ‘Tan-Spot’ mewn gwenith

21 Mawrth 2016

Ymchwil wedi ei ganolbwyntio ar Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol IBERS, lle mae’r dechnoleg ddelweddu yn cyflymu datblygiad mathau newydd o gnydau.

Tîm iCub yn ennill gwobr ffotograffiaeth gwyddoniaeth flaenllaw am yr ail flwyddyn yn olynol

21 Mawrth 2016

'iCub and the tutor' gan Sandy Spence o'r Adran Gyfrifiadureg yw enillydd gwobr 'Pobl' cystadleuaeth ffotograffiaeth yr EPSRC.

Cyllid gan Leverhulme i astudio’r berthynas rhwng teledu a chymdeithas yng Nghymru yn y 1970au

18 Mawrth 2016

Dyfarnwyd £114,000 dros gyfnod o dair blynedd i Dr Jamie Medhurst, Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu a chyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau.

Cymdeithas sy'n newid – Cyfraith sy’n newid?

17 Mawrth 2016

Cynhadledd ôl-raddedig dau ddiwrnod i archwilio sut mae'r gyfraith yn ymdopi â newidiadau mewn cymdeithas.

Yr Ysgol Gelf yn cynnal arddangosfa o waith gan yr artist Paul Newland

17 Mawrth 2016

Gwaith olew a dyfrlliw yn datgelu diddordeb yr artist yn nhirwedd De Llundain a Cheredigion.

Nid i wyddonwyr yn unig y mae gwyddoniaeth - Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth

14 Mawrth 2016

Arddangosfa dri diwrnod i groesawu mwy na 1700 o ddisgyblion ysgol o Geredigion, Powys a Gwynedd fel rhan o ddathliadau Wythnos Wyddoniaeth Brydeinig y Brifysgol.

Ail-ddarganfod darn o waith cerflunydd amlwg Cymreig o’r 19eg ganrif

14 Mawrth 2016

Penddelw marmor gan y cerflunydd Cymreig adnabyddus Joseph Edwards wedi ei ailddarganfod mewn cwpwrdd yn yr Hen Goleg.

Prifysgol Aberystwyth yn serennu ar Countryfile

14 Mawrth 2016

Myfyrwyr o IBERS yn ymddangos ar sioe boblogaidd y BBC, Countryfile.

Agweddau o’r goruwch naturiol yn nhraddodiadau Cymreig a Gwyddelig yr oesoedd canol

11 Mawrth 2016

Yr Athro Ruairi Ó hUiginn o Brifysgol Maynooth yn traddodi darlith yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol ar ddydd Mawrth 15 Mawrth.

Ysglyfaethwr neu Warchodwr? Cyd-destun y ddadl ar awyrennau milwrol di-beilot

11 Mawrth 2016

Bydd Chris Cole, sylfaenydd Drone Wars Uk yn trafod y defnydd o awyrennau arfog di-beilot mewn darlith Sefydliad Coffa David Davies ar ddydd Mawrth 15 Mawrth.

Aberystwyth ymysg 200 o brifysgolion gorau Ewrop

10 Mawrth 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth ymysg y 200 o brifysgolion gorau Ewrop yn ôl cynghrair prifysgolion y Times Higher Education.

Gwobr fawr i Glwb Roboteg Aberystwyth

10 Mawrth 2016

Gwobr am waith rhagorol grŵp roboteg o’r Adran Ffiseg gyda myfyrwyr o ysgolion Penglais a Phenweddig.

Ethol hanesydd yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol

09 Mawrth 2016

Mae’r Athro Phillipp Schofield yn ymchwilydd o fri rhyngwladol ym maes economeg a hanes cymdeithasol yr oesoedd canol.

Gwobr Hult: Tîm o Aberystwyth yn cyrraedd rownd derfynol Llundain

08 Mawrth 2016

Brandon Ribatika, Mohammed Waqasl a Sohail Iqbal i gynrychioli Aberystwyth yn rownd derfynol ranbarthol Llundain Gwobr Hult ar 11-12 Mawrth.

Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu cyfreithwraig gyntaf y Caribi

07 Mawrth 2016

Enwi ystafell astudio yn Hugh Owen ar ôl Iris de Freitas, yn sgìl darganfod cerdyn post ohoni ar eBay.

‘Bywyd mewn Dŵr Croyw’

04 Mawrth 2016

Darlith gyhoeddus i ddathlu bywyd a gwaith Dr Kathleen Carpenter, ecolegydd dŵr croyw arloesol oedd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth.

Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Un Byd

04 Mawrth 2016

Prifysgol Aberystwyth yn dathlu cyfoeth ac amrywiaeth y gymuned o fyfyrwyr rhyngwladol yn ystod Wythnos Un Byd (7fed tan y 13eg o Fawrth).

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016

03 Mawrth 2016

Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016 gydag wythnos o ddigwyddiadau rhwng y 5ed a’r 11eg o Fawrth.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn anrhydeddu Ned Thomas

02 Mawrth 2016

Ned Thomas, cyn ddarlithydd yn Adran Saesneg a chyn gyfarwyddwr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd.

Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

02 Mawrth 2016

Union ganrif ar ol gweithredu Deddf Gorfodaeth, dyma gyfle euraidd i wrando ar ymchwil helaeth Aled Eurig ar y Gwrthwynebwyr Cydwybodol.

Brynamlwg yn ailagor ar ei newydd wedd

02 Mawrth 2016

Mae Brynamlwg ar agor i bawb ac yn cynnig bwydlen newydd gyffrous sy'n canolbwyntio ar gynnyrch lleol.

Ysgolhaig o Rwsia yn dod â Hen Gymraeg yn fyw

01 Mawrth 2016

Llawlyfr Hen Gymraeg yw’r gyntaf mewn cyfres newydd o dan olygyddiaeth Dr Simon Rodway o Adran y Gymraeg.

Gwyddonwyr IBERS yn cychwyn prosiect ymchwil ar y panda mawr

01 Mawrth 2016

Gwyddonwyr o IBERS a Chymdeithas Sŵolegol Frenhinol yr Alban yn cydweithio i astudio parasit sy’n effeithio ar bandas mawr.