£272,000 i hanesydd i astudio gwaith gwleidyddol Richard Brinsley Sheridan

Yr Athro Martyn Powell

Yr Athro Martyn Powell

23 Mawrth 2016

Dyfarnwyd Grant Prosiect Ymchwil Leverhulme o £272,000 i Martyn Powell, Athro Hanes Iwerddon Fodern o Brifysgol Aberystwyth, i astudio gwaith gwleidyddol Richard Brinsley Sheridan.

Yn enedigol o Iwerddon, roedd Richard Brinsley Sheridan (1751-1816) yn ddramodydd, perchennog theatr, Aelod Seneddol, 'spin-doctor', yfwr a dyledwr, ac yn ffigwr drwg-enwog yn niwedd y ddeunawfed ganrif, oes gyntaf y ‘selebs’ y gellir dadlau.

Ond tra bod ei weithiau theatrig School for Scandal a The Rivals yn parhau’n adnabyddus ac yn cael eu perfformio, mae arwyddocâd ei yrfa wleidyddol wedi cael ei thanbrisio. Ac eto roedd yn cael ei ystyried yn un o’r areithwyr gorau a welodd y senedd erioed, a’i araith yn achos Warren Hastings, Llywodraethwr Cyffredinol India, yr orau yn ei hanes o bosibl.

Bydd yr Athro Powell yn cydweithio â Dr Robert Jones o Brifysgol Leeds ar y prosiect pedair blynedd gyda’r nod o adfer ac edrych o’r newydd ar yrfa wleidyddol Sheridan, ymchwilio i’w arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol fel gwleidydd ac areithiwr, a’i weithgareddau gwleidyddol ehangach, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer y wasg - yr oedd yn amddiffynnwr cynnar o’i rhyddid, ac mae un o'i areithiau ar y pwnc hwn wedi’i harysgrifennu ar y tu mewn i Adeilad Tribune Chicago.

Prif gynnyrch y prosiect fydd cyhoeddi argraffiad ysgolheigaidd 4 cyfrol o weithiau gwleidyddol cyflawn Sheridan, gyda Wasg Prifysgol Rhydychen.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme Trust gan Will o William Hesketh Lever, sefydlydd Lever Brothers. Ers 1925 mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn darparu grantiau ac ysgoloriaethau ar gyfer ymchwil ac addysg. Heddiw, mae’n un o’r darparwyr cyllid ymchwil ar draws y pynciau i gyd mwyaf ym Mhrydain, gan ddosrannu tua £80m bob blwyddyn. Am fwy o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth, ewch i www.leverhulme.ac.uk.

AU11316