Lansio Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig

Chwith i’r Dde: Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth; Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Mark Drakeford AM, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodareth Cymru: Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth yn nodi lansiad Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig.

Chwith i’r Dde: Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth; Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Mark Drakeford AM, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodareth Cymru: Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth yn nodi lansiad Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig.

24 Mawrth 2016

Ddydd Iau 24 Mawrth lansiodd Prifysgol Aberystwyth y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn lansiad Canolfan Rhagoriaeth Gofal Iechyd Gwledig gan yr Athro Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Golyga sefydlu’r ganolfan newydd y bydd Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio’n agos iawn gyda Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau unigryw o ddarparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig megis canolbarth Cymru.

Bydd y Ganolfan hefyd yn cefnogi amgylchedd ymchwil deniadol i gydweithwyr clinigol mewn sefydliadau iechyd partner.

Dywedodd Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig: “Mae darparu gofal iechyd i boblogaethau gwledig yn heriol, nid yn unig yn y DG ond hefyd mewn gwledydd datblygedig ac sy'n datblygu o amgylch y byd. Nid yw ceisio mynd i'r afael â'r heriau unigryw o ofal iechyd gwledig drwy estyniad syml o ymagweddau trefol yn effeithiol ac aml ni fyddant yn ystyried yr heriau o ddaearyddiaeth leol, naws diwylliannol, ac arbedion maint.

“Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwneud y mwyaf o’r leoliad, sydd wedi'i gwreiddio yn y gymuned wledig o Ganolbarth-Gorllewin Cymru, i ddarparu ymchwil arloesol a dylanwadol sy'n llywio darpariaeth gofal iechyd gwledig ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.”

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth a'r Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru ar y prosiect newydd cyffrous hwn. Rydym yn gwybod bod yr heriau sy'n wynebu darparu gofal iechyd gwledig yn niferus ac yn amrywiol ac ynghyd â'n partneriaid, byddwn yn cymryd ymagwedd ddyfeisgar ac arloesol er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy a pharhaol, ac  sydd o fudd gwirioneddol i gymunedau yng Nghanolbarth-Gorllewin Cymru.”

Dywedodd Dr Sue Fish, Cyfarwyddwr Rhaglen Glinigol Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru a meddyg teulu yn y Borth, Ceredigion: "Bydd y Ganolfan Ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle cyffrous i'r staff clinigol presennol a'r dyfodol sy'n gweithio yng Nghanolbarth Cymru i gymryd rhan mewn ymchwil a phrosiectau arloesi, a fydd yn datblygu atebion i’r heriau o ddarparu gofal iechyd gwledig. Un o'r blaenoriaethau cyntaf fydd adeiladu ar y profiad mewn telefeddygaeth sydd eisoes yn bodoli yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais i ddatblygu'r defnydd o dechnoleg, fel y gellir darparu gofal arbenigol yn nes at gartrefi pobl ar draws Canolbarth Cymru."

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil: "Mae gan Brifysgol Aberystwyth rôl allweddol i'w chwarae wrth wella ffyniant a lles yng nghymunedau gwledig Cymru, ac mae’r Ganolfan newydd hon yn un o glwstwr o fentrau newydd i wneud hynny. Mae heriau gofal iechyd gwledig yn gofyn am feddwl mewn modd rhyngddisgyblaethol, ac felly mae'n wych i weld yr ystod o arbenigedd y gallwn ddarparu mewn ymateb. Bydd prifysgolion a phartneriaid eraill ledled Cymru hefyd yn cyfrannu at fenter y Gweinidog yn y meysydd sy’n gryfder iddynt, ac felly rhyngom rwy'n gobeithio y gallwn yrru newid gwirioneddol yn y ffordd yr ydym yn meddwl a gwneud gofal iechyd yng Nghanolbarth Cymru yn esiampl i'r byd ."

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gefndir helaeth ym maes iechyd ac ymchwil perthynol i iechyd yn ogystal ag arbenigedd mewn daearyddiaeth wledig a modelu data.

Mae ymchwilwyr o’r Brifysgol yn adrannau Seicoleg, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig eisoes wedi bod yn gweithio mewn meysydd allai arwain at fanteision sylweddol mewn gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig.

Bydd y Ganolfan hefyd yn adeiladu ar ymchwil ar y cyd cyfredol gyda phartneriaid ymchwil sydd yn greiddiol i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol mewn ardaloedd gwledig.

Enghreifftiau o waith ymchwil sydd yn berthnasol i Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae'r Adran Seicoleg wedi bod yn datblygu rhaglen arloesol o ymchwil er mwyn deall heriau seicolegol a phrofiadau cefn gwlad i gleifion sydd â salwch cronig ac i’w teuluoedd, yn ogystal  â’r rhan y gall telefeddygaeth ei chwarae wrth gynorthwyo â’u hanghenion gofal iechyd. Yn benodol, mae prosiectau wedi cydweithio â Bwrdd Iechyd Hywel Dda i archwilio i fideo-gynadledda fel modd o gysylltu cleifion gofal lliniarol â chefnogaeth seicogymdeithasol arbenigol o'u chartrefi eu hun; profiadau cleifion sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a diabetes o ddefnyddio telemonitro i reoli eu cyflyrau eu hunain, ac i ba raddau mae'r telemonitro yn dderbyniol ganddynt; a phrosiect peilot i asesu rôl teleiechyd wrth  gynnal seicotherapi mewn grwpiau rhithwir ar gyfer cleifion ag imiwnedd isel.

Mae gan yr Adran Gyfrifiadureg gefndir mewn dadansoddi a modelu data clinigol, gan gynnwys meysydd fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), gynaecoleg, a diagnosis gyda chymorth cyfrifiadurol gyda phwyslais cryf ar ddelweddu clinigol, modelu data cymhleth a chydweithio llwyddiannus â defnyddwyr clinigol. Yn ogystal, mae gan yr adran brofiad helaeth o ddatblygu apiau o fewn amrywiaeth o feysydd cymhwyso, a hynny gan ystyried defnyddwyr dwyieithog.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi archwilio materion sy'n gysylltiedig ag iechyd o safbwyntiau'r gwyddorau cymdeithasol a gwyddor amgylcheddol. Mae ymchwil o'r gwyddorau cymdeithasol wedi cynnwys dadansoddiad drwy Arsyllfa Wledig Cymru ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd ar fynediad i wasanaethau gofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru; yn ogystal ag astudiaethau o bobl hŷn a gwirfoddoli yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys er enghraifft, cynlluniau rhannu ceir i deithio i ysbytai, newid ymddygiad a hybu iechyd. Mae'r ymchwil ym maes gwyddor yr amgylchedd wedi canolbwyntio ar ddŵr ac iechyd, gan gynnwys ymchwil hirdymor ar ansawdd dŵr ymdrochi a gwaith ar gyrsiau dŵr ac epidemioleg.

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn gweithio gyda chlwstwr Meddygon Teulu Gogledd Ceredigion i asesu effeithiolrwydd ymyrraeth cyn-diabetes. Bydd unigolion o Ogledd Ceredigion a nodwyd mewn perygl o gael diabetes yn cael cynnig ymgynghoriad 30 munud un i un, yn ystod y cyfnod hwn byddant yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli i'w helpu i newid eu diet a'u gweithgarwch corfforol. Mae'r gwaith hwn yn gysylltiedig yn agos â'r gwerthusiad, a wnaed gan yr hen Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac a gafodd ei ariannu gan y Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) i asesu effaith rhaglen i helpu cleifion diabetes i reoli eu cyflwr eu hun. Roedd y prosiect ar y rhestr fer am Wobr y GIG yn 2015 ac mae'r EPP bellach yn archwilio opsiynau i ehangu darpariaeth y rhaglen ar draws Cymru.

AU10216