Myfyrdodau ar Gymru ac Ewrop

Dr Hywel Ceri Jones CMB

Dr Hywel Ceri Jones CMB

07 Ebrill 2016

Y Dr Hywel Ceri Jones CMG, cyn-fyfyriwr a Chymrawd o Brifysgol Aberystwyth, fydd yn traddodi’r 16eg Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, sy’n cael ei threfnu eleni ar y cyd gydag WISERD, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru.

Pwnc ei ddarlith fydd 'Myfyrdodau ar Gymru ac Ewrop'.

Cynhelir y ddarlith yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gampws Penglais ar Ddydd Mercher 20 Ebrill 2016, a bydd yn dechrau am 7pm. Mae croeso i bawb.

Yn y ddarlith amserol hon, bydd Dr Hywel Ceri Jones yn trafod y berthynas rhwng Cymru ac Ewrop, ac yn rhannu ychydig o'i fyfyrdodau personol ar sut y mae'r berthynas hon wedi datblygu dros y degawdau diwethaf, a beth yw'r dyfodol i Gymru a'r DG o fewn Ewrop.

O 1993 tan 1998, daliodd Dr Jones uwch swyddi yn y Comisiwn Ewropeaidd: Cyfarwyddwr Addysg, Hyfforddiant a Pholisi Ieuenctid, Cyfarwyddwr y tasglu ar gyfer adnoddau dynol, addysg a hyfforddiant â chyfrifoldeb am y cysyniad o raglenni blaenllaw'r UE gan gynnwys Erasmus a Tempus.

Yna penodwyd Dr Jones i weithredu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Cyflogaeth, Polisi Cymdeithasol a Chysylltiadau Diwydiannol (1993-1998). Yn ystod y cyfnod hwn roedd ganddo gyfrifoldeb dros Gronfa Gymdeithasol Ewrop a bu’n cyd-gyfarwyddo Rhaglen Heddwch a Chymod yr UE yng Ngogledd Iwerddon.

Yn dilyn hynny, gweithredodd Dr Jones fel Cadeirydd y Ganolfan Bolisi Ewropeaidd, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ewropeaidd y Sefydliadau, cyd-gadeirydd y Consortiwm Ewropeaidd ar Sylfeini ar gyfer Hawliau Anabledd, Llywodraethwr y Sefydliad Diwylliant Ewropeaidd ac Ymddiriedolwr Ecorys a'r Ymddiriedolaeth Ffederal dros Addysg ac Ymchwil a'r Cyngor Prydeinig a Ffrengig.

Yn 1998-9 gwasanaethodd fel Cynghorydd Ewropeaidd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan gadeirio tasglu Cymru gyfan ar Gymru ac Ewrop. Yn 2014-16, gweithredodd fel un o'r tri Llysgennad Cyllid Ewropeaidd i Lywodraeth Cymru, gan helpu i hyrwyddo a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gyflwynir gan y rhaglenni a reolir yn uniongyrchol gan yr UE, a chyhoeddwyd adroddiad terfynol o'u casgliadau ac argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ar yr 17eg Mawrth 2016.

Cafodd Dr Hywel Ceri Jones ei fagu ym Mhort Talbot ac yna Clydach yng Nghwm Tawe, yn fab i weinidog ac enillydd cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Pontardawe cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Ffrangeg.  Cymhwysodd yno fel athro a mynd ar drywydd ymchwil i fywyd a gwaith yr awdur Ffrengig Henri Barbusse.

Yn 1961-1962 ef oedd Llywydd Undeb Myfyrwyr Aber, a derbyniodd Ysgoloriaeth John ac Elizabeth Williams i astudio yn Ewrop.

Mae Dr Jones wedi derbyn Doethuriaethau gan Brifysgolion Sussex, Leuven, Brwsel, Cymru, Iwerddon a'r Brifysgol Agored ac mae’n Gymrawd prifysgolion Abertawe, y Drindod, Glyndŵr, Morgannwg, Westminster a’r Sefydliad Addysg yn yr Alban. Dyfarnwyd iddo Fedal Aur gan Weriniaeth yr Eidal am wasanaethau i addysg a diwylliant a dyfarnwyd iddo’r CMG.

Dywedodd Dr Huw Lewis, Cyfarwyddwr Dros Dro Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, ei fod yn "falch iawn o groesawu Hywel Ceri Jones yn ôl i Brifysgol Aberystwyth i gyflwyno Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ', sy’n cael ei threfnu ar y cyd â Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru. Fel rhywun sydd wedi treulio llawer o'i fywyd yn gweithio o fewn y Comisiwn Ewropeaidd ac wedi bod yn ganolog i gymaint o ddatblygiadau Ewropeaidd yn ystod y tri deg neu’r deugain mlynedd diwethaf, ac ar adeg pan fo dyfodol perthynas y DG â'r UE yn destun trafod mor bwysig, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed am weledigaeth Hywel Ceri ar gyfer Cymru o fewn Ewrop."

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol a sefydlwyd o fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1997, hi yw’r adran hynaf o'i bath yn y byd. Fe'i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad o bob agwedd ar wleidyddiaeth Cymru a bellach, caiff y Sefydliad ei adnabod yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil bwysig ar ranbartholdeb gwleidyddol a chenedlaetholdeb is-wladwriaeth.

Dyma’r unfedarbymptheg Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru.  Mae siaradwyr blaenorol yn cynnwys tri Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Alun Michael AS, Rhodri Morgan AC, a Carwyn Jones AC, yn ogystal ag Ieuan Wyn Jones AC, Arglwydd Griffiths o Fforestfach, Syr Simon Jenkins, Athro Tom Nairn, yr Athro Robert Hazell, Yr Athro Michael Keating, Kirsty Williams AC, Huw Lewis AC, Adam Price AS, Leanne Wood AC, yr Athro Charlie Jeffery a’r Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

AU12716