Y Brifysgol ac Age Cymru Ceredigion yn cynnig ‘MOT’ ffitrwydd i bobl dros 60

15 Ebrill 2016

Ar ddydd Mercher 20 Ebrill 2016 cynhelir 'gweithdy ffitrwydd gweithredol' rhad ac am ddim wedi ei anelu at bobl dros 60 oed yn y sir, gan wyddonwyr chwaraeon o Brifysgol Aberystwyth ynghyd ag Age Cymru Ceredigion, er mwyn asesu eu gallu i gyflawni tasgau cyffredin.

Dyma’r trydydd tro i'r digwyddiad blynyddol hwn gael ei gynnig, a chaiff ei gynnal rhwng 10:00-4:00 yn Adeilad Carwyn James ar gampws Penglais y Brifysgol.

Dywedodd, Dr Marco Arkesteijn, Darlithydd mewn Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn IBERS: “O dan oruchwyliaeth staff, ein myfyrwyr fydd yn rhedeg y gweithgareddau ar y diwrnod, gan ganolbwyntio ar gyfres o brofion i asesu statws ffitrwydd presennol unigolion.

Nid oes gofyn am ymrwymiad i unrhyw beth yn dilyn yr asesiad, ond bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn derbyn gwybodaeth llawn am eu lefel  ffitrwydd presennol, i’w galluogi i fynd i'r afael ag unrhyw faterion all godi yn eu hamser eu hunain, ar gyflymder eu hunain."

Nod y gweithdy yw asesu ffitrwydd yr unigolyn ynghyd â’r gallu i gyflawni tasgau dyddiol amrywiol, trwy 'asesiadau gweithredol'.

Ni fydd angen i fynychwyr gwblhau'r holl elfennau, ond bydd cwblhau cynifer â phosibl yn cyflwyno darlun cyffredinol clir o statws iechyd a ffitrwydd gweithredol yr unigolyn.

Bydd asesiadau yn cynnwys; hyblygrwydd coesau a breichiau a phwysedd gwaed. Yn dilyn yr asesiadau, bydd y rhai a fynychodd yn derbyn trosolwg o'u cryfderau a'u gwendidau yn y gwahanol elfennau o ffitrwydd a bydd canllawiau yn cael ei darparu ar gynnal ffordd o fyw yn iach, gyda'r nod o wella ansawdd bywyd.

Dywedodd Simon Wright o Age Cymru Ceredigion: “Yma yn Age Cymru Ceredigion rydym yn falch iawn o fod yn gweithio eto gyda'r gwyddonwyr chwaraeon yn IBERS. Wrth i ni fynd yn hŷn, mae deall a chynnal ein ffitrwydd yn dod yn hynod o bwysig i aros yn annibynnol ac yn weithgar. Mae'r digwyddiad hwn yn helpu i gyflawni'r nod hwnnw.

Rydym hefyd yn cydnabod Clwb Llewod Aberystwyth – Aberystwyth Lions Club am eu cyfraniad hael tuag at y digwyddiad hwn.”

Mae'r gweithdy yn agored i bawb ac yn addas  i bobl o bob gallu, a bydd yn cynnwys asesiadau golwg a chlyw, a gofal iechyd traed.

Bydd lluniaeth ar gael drwy gydol y dydd , gan gynnwys cinio ysgafn . Bydd gwirfoddolwyr Age Cymru Ceredigion hefyd yn bresennol i arwain a helpu gydag unrhyw faterion. Cefnogir y digwyddiad hwn gan Glwb Llewod Aberystwyth.

Mae'n hanfodol archebu lle o flaen  llaw trwy gysylltu ag Age Cymru Ceredigion ar 01970 615151 / ab@agecymruceredigion.org.uk.

AU13816