Ai bod, ai peidio â bod

Clip o'r ffilm.

Clip o'r ffilm.

09 Mai 2016

I nodi 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare,  mae ffilm amlieithog newydd gan y cyn-fyfyriwr Dewi Huw Owen ac aelod staff Adam Wilson yn rhoi gwedd newydd i ymson enwog Hamlet Ai bod, ai peidio â bod.

Dyma’r tîm tu ôl i ffilm Sonnet 30 a gynhyrchwyd y llynedd ac a berfformiwyd gan gast amlieithog ar draws sawl cyfandir.  Graddiodd Dewi Huw Owen yn 2013, ac mae Adam yn wneuthurwr ffilmiau ac aelod o'r tîm Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Meddai Huw, “Er mai ymson unigolyn yw’r araith hon yn y ddrama wreiddiol, mae ynddi nifer o leisiau gwahanol, sydd oll yn mynegi safbwyntiau penodol yn y ddadl sy’n corddi ym meddwl Hamlet. Drwy roi cymeriad i bob un o’r dadleuon hyn, gwelwn ddyfnder a chymhlethdod y Daniad ei hun, a chawn bortread byw o’r cyflwr dynol, amlochrog, amlddiwylliannol, ac amlieithog, a berthyn iddo.”

Atega Adam farn Huw, gan esbonio bod dawn Shakespeare i lunio straeon oesol sy’n pontio rhwng ieithoedd a diwylliannau yn destun chwilfrydedd iddo, a’i fod yn mwynhau cael archwilio’r gwahanol ddulliau y gellir cyfieithu gwaith y dramodydd yn greadigol o gyfrwng i gyfrwng.

Yn ymuno ag Adam a Huw yn y prosiect eleni mae tri actor ifanc a chanddynt gysylltiadau cryfion â Phrifysgol Aberystwyth.

Graddiodd Adrian Jezierski, sy’n wreiddiol o Wlad Pwyl, o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 2015. Y mae wedi astudio gyda chwmnïau theatr ar draws Ewrop, o Ddenmarc i Wlad Pwyl, ac o Ffrainc i Gymru, ac yn 2014 cafodd y cyfle i gymryd rhan yng Ngŵyl Odin Teatret. Parhaodd Adrian i astudio gydag un o’i diwtoriaid o Aberystwyth, Jill Greenhalgh, wedi iddo gwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol, ac y mae bellach yn gweithio fel Tiwtor Theatr Corfforol gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr Arad Goch.

Ymchwilydd, scenograffydd, ac artist gweledol yw Lara Kipp, sydd ar hyn o bryd yn nhrydedd blwyddyn ei doethuriaeth yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn astudio scenograffeg Howard Baker. Yn wreiddiol o Fafaria, mae Lara wedi actio ar S4C a gyda Chwmni Theatr Gwir sy’n Llechu/Lurking Truth Theatre Company. Dylanwadwyd ar ei diddordebau theatr yn fawr gan gynhyrchiad Lucy Bailey o Titus Andronicus yn 2006, a dyna’i hoff ddrama o eiddo Shakespeare hyd heddiw.

Myfyrwraig yn ei blwyddyn gyntaf yn Aber sy’n astudio Saesneg ac Astudiaethau Theatr a Drama fel gradd gyfun yw Pippa Martin. Yn wreiddiol o Dde Affrica, meithrinwyd diddordeb Pippa mewn cyfieithu yn y theatr yn ystod ei blwyddyn allan yn Ffrainc. Dyma ei phrofiad cyntaf o actio ym myd ffilm a theledu.

Gellir gwylio’r ffilm yma:  https://www.youtube.com/watch?v=mmsxbTHhhZc, ac mae ar gael ar flog academaidd pythefnosol Huw, Bob dydd Iau bydd #cyfieithiadau!

AU15316