Is-Ganghellor Dros Dro â’i fryd ar Her y Dyn Haearn

Yr Athro John Grattan yn cael ei hyfforddi ar gyfer Her y Dyn Haearn gan Richard Martin, Hyfforddwr Campfa a Phersonol yn Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol.

Yr Athro John Grattan yn cael ei hyfforddi ar gyfer Her y Dyn Haearn gan Richard Martin, Hyfforddwr Campfa a Phersonol yn Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol.

11 Mai 2016

Bydd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yn cymryd rhan yn Her Dyn Haearn Byd Enwog Sir Benfro yn ddiweddarach eleni, gyda'r nod o godi arian ar gyfer y Gronfa Caledi Myfyrwyr a lles myfyrwyr.

Bydd y sialens yn Ninbych y Pysgod yn cynnwys nofio yn y môr, taith feicio a marathon - her i’r mwyaf heini a phenderfynol yn unig; felly i baratoi, bydd John yn gweithio gyda Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol a Gwyddonwyr Chwaraeon yn IBERS i ddilyn amserlen hyfforddi lawn gan anelu at gyflawni 500 awr o hyfforddiant yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae John yn codi arian ar gyfer y Gronfa Caledi Myfyrwyr sy'n galluogi’r Brifysgol i gynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr a allai fod yn wynebu argyfwng ariannol difrifol heb fod unrhyw fai arnyn nhw. Fel arfer mae’r Gronfa yn dibynnu ar gefnogaeth Alumni Prifysgol Aberystwyth, ond eleni mae’r Is-Ganghellor Dros Dro wedi ymrwymo i gyfrannu a chodi ymwybyddiaeth hefyd.

Mae’r Gronfa Caledi Myfyrwyr yn rhywbeth sy’n agos iawn at ei galon, ac yn deillio o’i brofiadau pan oedd yn ifanc; pan oedd yn ddeunaw, yn wahanol i lawer o’i gyfoedion, doedd mynd i brifysgol ddim yn opsiwn oherwydd bod rhaid iddo aros gartref a helpu ei rieni a’i frodyr a chwiorydd.

Arwydd o benderfyniad John hyd yn oed bryd hynny yw ei fod wedi gweithio'n galed i gyrraedd y nod a pheidio ag ildio – ac o’r diwedd, wyth mlynedd yn ddiweddarach, cyrhaeddodd Brifysgol Manceinion.

Yn ôl yr Is-Ganghellor: ‘'Pan gyrhaeddais i’r brifysgol yn 26 oed fe newidiodd fy mywyd, gan roi golwg newydd ac ehangach i mi. Rwy’ am geisio sicrhau bod eraill yn cael yr un cyfleoedd i gyflawni eu potensial.

‘Gorffen yr her yn ddiamau fydd y dasg anodd, ond rwy’n gobeithio bydd yr uchelgais sydd gen i ar gyfer ein myfyrwyr a'r Brifysgol yn fy helpu ar hyd y siwrnai. Mae profiad rhagorol i fyfyrwyr yn ganolog i Brifysgol Aberystwyth, ac mae ein myfyrwyr wrth galon Cronfa Aberystwyth’.

Gall cefnogwyr ddilyn ei siwrnai gan ei fod yn bwriadu cadw dyddiaduron fideo sy’n cofnodi ei gynnydd a bydd yn darparu diweddariadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Bydd John Grattan yn cystadlu yn Her y Dyn Haearn yn Ninbych y Pysgod ar Ddydd Sul 18 o Fedi. Gallwch ddilyn ei hynt ar ei flog micro: www.aber.ac.uk/ironmanvc