Cwmni Theatr a Dawns yn perfformio Gwdihŵ ym Mhrifysgol Aberystwyth

Andrew Evans, aelod o Gyrff Ystwyth a chreuwyd y sioe

Andrew Evans, aelod o Gyrff Ystwyth a chreuwyd y sioe

07 Mehefin 2016

Mae cwmni theatr a dawns sy’n cwrdd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn paratoi i gyflwyno darn newydd o waith gan un o’i aelodau.

Gwdihŵ yw enw’r sioe a thrwy gyfrwng dawns, mae’n edrych ar wahanol agweddau ar gymeriad y dylluan.  

Caiff y sioe ei pherfformio yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Adeilad Parry-Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, am 6.45yh Ddydd Gwener 10 a Dydd Sadwrn 11 Mehefin 2016.

Mae Andrew Evans o Aberystwyth wedi bod yn perfformio gyda chwmni Cyrff Ystwyth ers dros 20 mlynedd ond dyma’r tro cyntaf iddo greu ei sioe ei hun.

Cafodd Cyrff Ystwyth ei sefydlu gan Margaret Ames, sy’n uwch-ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r cwmni yn dwyn ynghyd pobl leol sydd heb gael unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn dawns neu theatr, gan gynnwys pobl gydag anableddau dysgu neu gorfforol.

Gwdihŵ yw’r diweddaraf mewn cyfres o berfformiadau dros y blynyddoedd sydd wedi cael eu creu gan aelodau gwahanol o gwmni Cyrff Ystwyth,” meddai Margaret.   

“Fy ngwaith gyda Cyrff Ystwyth yw prif sail fy ymchwil ym maes Perfformio ac Anabledd, sy’n ystyried yr heriau asthetig a gwleidyddol sy’n codi yn sgil gwaith theatr gan a chyda phobol sydd ag anableddau dysgu.”  

Mae tocynnau’n £6 yr un ac ar gael gan Margaret Ames mma@aber.ac.uk