Sefydliadau arweiniol yn rhoi llwyfan i'r biowyddorau yn eich maes chi yn Cereals 2016

IBERS yn ennill Cwpan NIAB yn CEREALS 2015

IBERS yn ennill Cwpan NIAB yn CEREALS 2015

07 Mehefin 2016

Bydd gwyddonwyr o orsaf ymchwil Rothamsted Research, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a Chanolfan John Innes wrth law i ddangos y datblygiadau diweddaraf mewn gwaith ymchwil i ffermio tir âr. Bydd y tri sefydliad ymchwil yn dangos eu gwaith ar y cyd i 25,000 o ffermwyr tir âr ac agronomegwyr yn Stondin 702 yn y digwyddiad a gynhelir ar 15 a 16 Mehefin yn Chrishall Grange, Swydd Gaergrawnt.

Bydd yr arddangosfeydd yn canolbwyntio ar fiowyddoniaeth yn y maes, a sut mae'r diwydiant yn defnyddio'r ymchwil ddiweddaraf er budd amaethyddiaeth, megis cynyddu maint y cynnyrch a gwella cnydau. Bydd yr ymwelwyr yn dysgu am yr ymchwil arloesol sydd ar y gweill yn y sefydliadau sy'n cael cyllid strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Y cynffonwellt du fydd y prif destun trafod mewn cyfarfod brecwast a gynhelir yn y stondin ar 15 Mehefin rhwng 8.30 a 9.30 y bore, lle y bydd y Dr Paul Nevel o Rothamsted Research yn trafod y dulliau diweddaraf o'i reoli.

Dewch i Stondin 702 i weld plotiau ac i holi'r gwyddonwyr.  Yno cewch weld gwyddonwyr Rothamsted yn cyflwyno eu gwaith, gan gynnwys arddangosfeydd ar:

Bydd ymwelwyr â stondin 702 hefyd yn gallu dysgu am ymchwil yn IBERS, yn enwedig eu gwaith datblygu ceirch. Mae'r mathau o geirch a ddatblygwyd gan IBERS yn cyfrif am 65 y cant o'r holl geirch a ddefnyddir yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn, ac fe fydd gwyddonwyr yno i ddisgrifio:

  • 100 mlynedd o fridio ceirch
    • Y mathau o geirch a dyfir heddiw
    • Mathau treftadaethol a brodorol o geirch o bedwar ban byd
    • Cynyddu'r amrywiaeth genynnol ar gyfer bridio ceirch

 Bydd ymchwilwyr o John Innes yn Stondin 702 yn tyfu 'gwybodlun byw' anferth o rawnfwydydd yn dangos faint o blanhigion sydd eu hangen ar gyfer y bwyd a fwytawn, a sut mae amrywio'r cynnyrch yn gallu effeithio ar ein gallu i fwydo poblogaeth y byd.  Gall yr ymwelwyr wedyn weld canlyniadau'r ymchwil hon ar waith yn stondinau partneriaid eraill yn Cereals, yn yr arddangosfeydd ar

 AU18516