Prifysgol Aberystwyth yn croesawu dirprwyaeth o Frasil

Dirprwyaeth o bum prifysgol ym Mrasil yn ymweld ag IBERS

Dirprwyaeth o bum prifysgol ym Mrasil yn ymweld ag IBERS

10 Mehefin 2016

Bydd dirprwyaeth o bum prifysgol ym Mrasil yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 10 Mehefin 2016.

Mae'r daith astudio yn rhan o helfa ffeithiau er mwyn ystyried cysylltiadau ymchwil a phartneriaethau posib â phrifysgolion ym Mhrydain.

Trefnwyd yr ymweliad ar y cyd rhwng y Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Prifathrawon Prifysgolion Taleithiol a Dinesig Brasil (ABRUEM), sef cymdeithas Frasilaidd sy'n cynrychioli 45 o brifysgolion taleithiol a dinesig.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gysylltiadau ymchwil cryfion â Brasil eisoes, yn enwedig yn IBERS a'i hymdrechion i fynd i'r afael â heriau gwyddonol o bwys, gan gynnwys:

Dr Gareth Griffith, Uwch Ddarlithydd Microbioleg, sy'n cynnal ymchwil i Haint Ysgubellau'r Wrach sy'n effeithio ar blanhigion cacao ac sydd wedi peri dinistr anferth i ddiwydiant cacao Brasil dros y 25 mlynedd diwethaf.

Mae'r Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS, Dr Sharon Huws, yn cydweithredu ag academyddion yn Universidade Federal de Viçosa ac Universidade Estadual de Maringá, ar waith i ddeall microbiom y rwmen ac i fanteisio ar y microbiom hwnnw. 

Yr Athro Jamie Newbold a'r Athro Kevin Shingfield yn IBERS sy'n gweithio ag academyddion yn Viçosa a San Palo, yn defnyddio bioleg systemau i wella effeithlonrwydd trosi porthiant mewn gwartheg, gan ganolbwyntio ar leihau'r effaith ar yr amgylchedd a chynyddu proffidioldeb cynhyrchu cig eidion ym Mrasil

Mae Dr Anyela Camargo Rodriguez yn arwain tîm o wyddonwyr IBERS yn cydweithredu â Chorfforaeth Ymchwil Amaethyddol Brasil (EMBRAPA) sydd ar flaen y maes, a Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol (NIAB) ym Mhrydain i fanteisio ar dechnolegau delweddu arloesol i linachau o wenith sydd ag ymwrthedd i ffwng y Smotyn Melyn

Bydd rhaglen y diwrnod yn cynnwys taith o adnoddau IBERS yng Ngogerddan, gan gynnwys Canolfan Genedlaethol Ffonomeg Planhigion a'r prosiect BEACON sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cael ei gyllido gan Ewrop.

Dywedodd Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Mike Gooding “Pleser o'r mwyaf yw croesawu ein hymwelwyr o Frasil. Mae IBERS yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau strategol pellach â Brasil yn enwedig mewn meysydd a fydd yn ategu ein galluoedd sy'n arwain y byd mewn gwaith arloesol a seilir ar fioleg.“

Bydd y ddirprwyaeth hefyd yn cael cyflwyniad i waith Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y cyfleoedd o ran y Saesneg, ac arwyddocâd hanesyddol Prifysgol Aberystwyth gyda chyflwyniad yn yr Hen Goleg.

Bydd y ddirprwyaeth sy'n ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yn cynnwys Is-Gangellorion a Dirprwy Is-Gangellorion o Brifysgol Talaith Bahia, Canolfan Prifysgol Cyfadrannau Cysylltiedig Addysg, Prifysgol Talaith Minas Gerais, Prifysgol Talaith Santa Cruz, a Phrifysgol Talaith São Paulo.

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith tair prifysgol ar ddeg ym Mhrydain a ddewiswyd gan y Cyngor Prydeinig i dderbyn y ddirprwyaeth, a fydd hefyd yn ymweld â Choleg y Brenin, Llundain, Prifysgol St Andrew a phrifysgolion Caeredin, Lincoln, Birmingham, Bryste, Abertawe, Ulster, Northumbria, Glasgow, Ystrad Clud, a Phrifysgol y Frenhines, Belfast.