Darlith Gyhoeddus: Drilio Gwyddonol am Wreiddiau'r Ddynoliaeth yn Affrica

Yr Athro Andy Cohen

Yr Athro Andy Cohen

16 Mehefin 2016

Bydd darlith gyhoeddus a roddir ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi cyflwyniad i waith tîm ymchwil rhyngwladol sy'n defnyddio gwaddodion o welyau llynnoedd hynafol yn nwyrain Affrica i ddeall sut y gallai newidiadau yn yr hinsawdd a'r amgylchedd fod wedi helpu i gyfeirio llwybr esblygiad y ddynolryw.

Rhoddir y ddarlith, ‘Scientific Drilling for Human Origins in Africa’ gan yr Athro Andy Cohen, Athro Nodedig y Geowyddorau ac Athro ar y Cyd ar Ecoleg a Bioleg Esblygol ym Mhrifysgol Arizona. Ar ôl y ddarlith dangosir ffilm 3D fer o'r enw ‘The Human Climate’.

Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim i bawb, ac ni fydd angen archebu lle ymlaen llaw, ac fe'i cynhelir yn Sinema Canolfan y Celfyddydau ddydd Llun 20 Mehefin am 5.30pm.

Mae'r Athro Cohen yn arwain tîm o arbenigwyr rhyngwladol, gan gynnwys staff o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y Prosiect 'Safleoedd Hominin a Drilio Paleolynnoedd', sef consortiwm ymchwil rhyngwladol sy'n gweithio ar golofnau hir o waddodion a gymerwyd o welyau llynnoedd yn nwyrain Affrica, i geisio darganfod sut mae newid yn yr hinsawdd wedi effeithio ar wreiddiau ac esblygiad y ddynolryw.

Bydd y ddarlith gyhoeddus yn cael ei thraddodi yn ystod gweithdy ymchwil deuddydd a gynhelir gan Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth ac a fydd yn dod ag arbenigwyr sy'n rhan o'r prosiect at ei gilydd, o'r Almaen, UDA ac Ethiopia.

Dywedodd yr Athro Henry Lamb o Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth, un o Brif Ymchwilwyr ar y Prosiect 'Safleoedd Hominin a Drilio Paleolynnoedd': “Bydd darlith Andy Cohen yn gyfle gwych inni glywed am ei brofiad hir o ymchwil i newid yn yr hinsawdd a gwreiddiau'r ddynolryw yn Affrica ac i roi llwyfan i ddangos cyfraniad Aberystwyth at y gwaith ymchwil cyffrous hwn.”

Paleolynoleg yw arbenigedd ymchwil yr Athro Cohen, sef astudio gwaddolion a ffosiliau o waelodion llynnoedd er mwyn deall hanes hinsoddol, amgylcheddol ac ecolegol llynnoedd a'r gwahanfeydd dŵr o'u cwmpas; fe yw awdur un o'r gwerslyfrau pennaf yn y maes. Ers bron i 40 o flynyddoedd mae'n defnyddio dulliau paleolynoleg i astudio llynnoedd yn nwyrain Affrica a Gogledd a De America. Ers 25 o flynyddoedd mae'n defnyddio technegau drilio gwyddonol i gasglu colofnau hirion o lynnoedd a gwaddodion llynnoedd sy'n mynd yn ôl miliynau o flynyddoedd.

Yn y ddarlith hon bydd yr Athro Cohen yn trafod sut mae anthropolegwyr a daearegwyr wedi dod ynghyd mewn tîm rhyngwladol mawr i ddefnyddio grym ymchwil baleolynoleg i ddeall hanes yr amgylchedd a'r hinsawdd drwy ddehongli colofnau drilio o welyau llynnoedd hynafol yn nwyrain Affrica.

Nod y tîm yw sicrhau gwell dealltwriaeth o sut y gallai newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd fod wedi helpu i gyfeirio llwybr esblygiad y ddynolryw. Bydd yr Athro Cohen yn rhannu'r cyffro a'r heriau a ddaw o gynnal prosiect ymchwil cymhleth mewn rhannau anghysbell o Genya ac Ethiopia, yn agos i'r mannau lle y darganfuwyd rhai o'r dystiolaeth bwysicaf am ein hynafiaid cynnar.

Ar ôl y ddarlith dangosir ffilm 3D fer sy'n cofnodi gwaith y prosiect a'r nodau gwyddonol.