Prifysgol Aberystwyth yn enwi Cymrodyr newydd

Y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu, Iolo Williams, a anrhydeddwyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2015.

Y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu, Iolo Williams, a anrhydeddwyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2015.

22 Mehefin 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu tri ar ddeg o bobl yn ystod Wythnos y Graddio 2016 a gynhelir dros bedwar diwrnod, o ddydd Mawrth 12 hyd at ddydd Gwener 15 Gorffennaf, yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff naw Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir un radd Doethuriaeth Er Anrhydedd hefyd; mae’r rhain yn cydnabod unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir hefyd ddwy radd Baglor Er Anrhydedd, ac un Radd Baglor Er Anrhydedd yn y Gwyddorau. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Y Seremonïau Graddio yw uchafbwynt calendr y Brifysgol. Dyma’r amser pan rydym yn dathlu gwaith caled a chyflawniadau ein graddedigion. Mae hefyd yn gyfle i gydnabod rhai unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu meysydd penodol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth, i Gymru a thu hwnt. Rydym yn falch iawn bod grŵp mor nodedig a diddorol o bobl wedi derbyn ein gwahoddiad i fod yn Gymrodyr Prifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn anrhydedd cael cyflwyno ymgeiswyr am Raddau Doethur Er Anrhydedd a Graddau Baglor Er Anrhydedd, i gydnabod eu llwyddiant, eu cyfraniad, a’u hymroddiad. Edrychwn ymlaen at rannu’r seremonïau graddio gyda’r bobl nodedig hyn.”

Cymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2016 yw (yn y drefn y’u cyflwynir):

Charmian Gooch

Charmian Gooch, sy’n gyn-fyfyriwr o’r Brifysgol hon, yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Global Witness, sefydliad nad yw’n gwneud elw sy’n ymgyrchu i roi terfyn ar gam-drin hawliau dynol a cham-drin amgylcheddol a ddaw yn sgil cam-fanteisio ar adnoddau naturiol a chyfundrefnau gwleidyddol ac economaidd llwgr. Hi oedd un o arweinwyr ymgyrch gyntaf Global Witness, a ddatgelodd fasnach mewn coed rhwng y Khmer Rouge a chwmnïau torri coed Thai a’u cefnogwyr gwleidyddol a milwrol. Hefyd, datblygodd a lansio’r ymgyrch i frwydro yn erbyn ‘diemwntiau gwaed’, sy’n waith yr enwebwyd Global Witness am Wobr Heddwch Nobel yn 2003 amdano. Enillodd Charmian y Wobr TED flynyddol yn 2014, ac, ynghyd â chyd-sylfaenwyr Global Witness, derbyniodd Wobr Gweithredydd Rhyngwladol Gleitsman a Gwobr Skoll am Fentergarwch Gymdeithasol. Yn 2014 rhoddwyd ei henw ar restr Bloomberg Markets, y 50 Mwyaf eu Dylanwad.

Cyflwynir Charmian Gooch yn ystod Seremoni 1 fore dydd Mawrth, 12 Gorffennaf.

Ruth Lambert

Cafodd Ruth Lambert ei geni a’i magu ym Machynlleth. Derbyniodd Ysgoloriaeth yng Ngholeg Westfield, Prifysgol Llundain yn 1949 a graddio mewn Hanes ym 1952. Defnyddiodd Ruth etifeddiaeth deuluol i deithio’r byd cyn priodi Swyddog Llynges ym 1954.  Ar ôl magu teulu bu’n weithiwr cymdeithasol gwirfoddol ym maes Gofal Ysgol yng Ngogledd Kensington. Gwasanaethodd yn Ustus Heddwch yn Llundain Fewnol o 1981 tan 1989. Hi oedd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth o 1986 tan 2009 ac o 2012 tan 2015. Hi hefyd oedd trefnydd Gŵyl Machynlleth a rhaglen arddangosfa MOMA Machynlleth am ymron i ddeng mlynedd ar hugain.

Cyflwynir Ruth Lambert yn ystod Seremoni 1 fore dydd Mawrth, 12 Gorfennaf.

Syr Evan Paul Silk KCB

Yn frodor o Grughywel, aeth Paul Silk i’r ysgol yn Aberhonddu cyn mynd ymlaen i addysg uwch yn Rhydychen, Princeton (UDA) a’r Brifysgol Agored. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol yn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin. O 2001 tan 2007 roedd yn Glerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Wedi hynny, o 2007 tan 2010, bu’n Gyfarwyddwr Prosiectau Strategol yn Nhŷ’r Cyffredin. O 2011 tan 2014 cadeiriodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Mae’n Athro er Anrhydedd yn Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd ac yn Llywydd Grŵp Astudio’r Senedd, ac ysgrifennodd a darlithiodd yn helaeth ar y Senedd a’r cyfansoddiad. Cafodd ei benodi’n Farchog Gomander Urdd y Baddon yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2015 am ei wasanaethau i seneddau ac i ddatganoli.

Cyflwynir Syr Evan Paul Silk yn ystod Seremoni 3 fore dydd Mercher, 13 Gorffennaf.

Natasha Devon MBE

Mae Natasha Devon MBE yn awdur, ymgyrchydd a sylwebydd teledu. Hi yw sylfaenydd y Self Esteem Team a’r rhaglen Body Gossip Education Programme, y naill a’r llall yn gweithio mewn ysgolion i gynorthwyo pobl ifainc yn eu harddegau, eu rhieni a’u hathrawon gyda iechyd meddyliol a chorff-ddelwedd. Hyd yn hyn, cafodd eu dosbarthiadau arobryn eu cyflwyno i dros 60,000 o bobl ifainc ledled Prydain. Yn 2015, penodwyd Natasha gan y llywodraeth yn Hyrwyddwr Iechyd Meddwl i Ysgolion. Yn 2016 cafodd ei henwi gan y Sunday Times a Debretts yn un o’r 20 unigolyn mwyaf eu dylanwad ym myd addysg ym Mhrydain.

Cyflwynir Natasha Devon yn ystod Seremoni 3 fore dydd Mercher, 13 Gorffennaf.

Dr Mitch Robinson

Yn wreiddiol o Mississippi, graddiodd Mitch Robinson gyda gradd Meistr yn y Gyfraith (LLM) o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn 2005. Yn awr, y mae’n arbenigwr yn y gyfraith ryngwladol i Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau, ac yn ddiweddar bu’n gweithio ar achosion iawnderau dynol yng nghanolfan gadw Bae Guantánamo, Ciwba, ac arweiniodd y gwaith hwnnw at adroddiadau a chynseiliau arloesol gan y Cenhedloedd Unedig ynghylch iawnderau’r drefn briodol ac adsefydlu rhai a gafodd eu harteithio. Mae Mitch yn tadogi ei lwyddiant proffesiynol i’r cyfnod a dreuliodd yn astudio yn Aberystwyth. Yn 2015 enillodd y Wobr Cyrhaeddiad Proffesiynol yng Ngwobrau Alumni EdUK UDA, sy’n anrhydeddu cyflawniadau eithriadol gweithwyr proffesiynol, mentergarwyr ac arweinwyr yn y gymuned sy’n gallu dangos sut y dylanwadodd eu haddysg ym Mhrydain ar eu llwyddiant.

Cyflwynir Mitch Robinson yn ystod Seremoni 4 prynhawn dydd Mercher, 13 Gorffennaf.

A J S Williams MBE

Dechreuodd y diweddar A.J.S “Bill” Williams (1920-2016) ei yrfa yn beilot gyda’r RAF ac yn hyfforddwr hedfan. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cemeg yn Aberystwyth ym 1950, a chafodd ei benodi’n ddarlithydd cynorthwyol mewn cemeg organig. Yn 2014 enwyd Bill yn un o 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, i gydnabod y gwaith a wnaeth yn addysgu dros 80,000 o blant ysgol yn ystod ei yrfa hir ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1950-2011. Yn ystod ei oes hefyd derbyniodd Bill MBE, Gwobr Ddarlith Michael Faraday, Medal Efydd B D Shaw (Prifysgol Nottingham), a Medal Arian y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Bydd teulu A.J.S Williams yn derbyn yr anrhydedd er cof iddo yn ystod Seremoni 6 brynhawn dydd Iau, 14 Gorffennaf.

Dr Catherine Bishop

Mae Catherine Bishop yn Olympiad driphlyg, yn ddiplomydd gwrthdaro rhyngwladol, yn siaradwr profiadol ac yn hwylusydd. Graddiodd mewn Ieithoedd Modern o Brifysgol Caergrawnt a chydag MPhil mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a PhD mewn Almaeneg o Brifysgol Reading, ac fe ddaeth Cath hefyd yn Bencampwraig Byd ac Enillydd Medal Arian gyda thîm rhwyfo Prydain. Treuliodd hefyd dros ddegawd yn ddiplomydd Prydeinig, gan arbenigo ym materion gwrthdaro, gan wasanaethu am gyfnodau ym Mosnia ac Irac. Mae dawn ysbrydoledig Cath wrth siarad busnes, wrth ddarlithio a dysgu, yn canolbwyntio ar yr her o roi perfformiad eithriadol o dan amodau anodd, ac yn hyn o beth y mae hi’n tynnu ar ei phrofiadau ei hun mewn chwaraeon Olympaidd a diplomyddiaeth gwrthdaro rhyngwladol.

Cyflwynir Dr Catherine Bishop yn ystod Seremoni 6 brynhawn dydd Iau, 14 Gorffennaf.

Andrew Guy MBE

Mae gan Andrew Guy ddeugain mlynedd o brofiad yn sector ciniawa anffurfiol y diwydiant croeso, a gweithiodd ym Mhrydain, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Bu’n Brif Swyddog Gweithredol Ed’s Easy Diner ers 2011, ac yn ystod y cyfnod hwn cynyddodd nifer y bwytai o dri i bump deg pump. Mae’r cwmni bellach yn cyflogi dros 1,000 o aelodau tîm, llawer ohonynt wedi’u cyflogi trwy’r elusen Springboard, sy’n dod o hyd i waith yn y diwydiant croeso i bobl ifanc sy’n ddi-waith ac o dan anfantais. Ar hyn o bryd, mae’n Ymddiriedolwr i ddwy brif elusen y diwydiant croeso, Hospitality Action a Springboard, a derbyniodd Wobr Catey yn 2003 fel Perchennog Grŵp Bwytai y Flwyddyn. Dyfarnwyd iddo MBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2015 am ei arweiniad yn y diwydiant a’i waith gyda’r elusennau hyn. 

Cyflwynir Andrew Guy yn ystod Seremoni 7 fore dydd Gwener, 15 Gorffennaf.

Yr Athro Julian Dowdeswell

Yr Athro Julian Dowdeswell yw Cyfarwyddwr Sefydliad Scott i Ymchwil y Pegynnau, y mae’n Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt, a Chymrawd Brian Buckley Gwyddor y Pegynnau yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt. Graddiodd o Gaergrawnt yn 1980, ac astudio am radd Meistr yn y Sefydliad Ymchwil Arctig ac Alpaidd ym Mhrifysgol Colorado ac am PhD yn Sefydliad Scott i Ymchwil y Pegynnau, Prifysgol Caergrawnt. Yn ei yrfa dros ddeng mlynedd ar hugain, mae wedi dysgu ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bryste a Chaergrawnt, ac wedi sefydlu canolfannau ymchwil rhewlifeg yn Aberystwyth ac ym Mryste. Derbyniodd Julian nifer o wobrau am ei waith, gan gynnwys Medal y Pegynnau, Medal Aur Founder a Gwobr Goffa Gill gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, ac yn 2014 Medal IASC (International Arctic Science Committee).

Cyflwynir yr Athro Julian Dowdeswell yn ystod Seremoni 8 brynhawn dydd Gwener, 15 Gorffennaf.

Doethur er Anrhydedd

Yr Athro Ken Walters

Enillodd Ken Walters, Athro Ymchwil Nodedig Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, radd MSc a PhD ym Mhrifysgol Abertawe.  Cafodd ei benodi’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a’i ddyrchafu’n Athro ym 1973. Maes ei ymchwil yw mecaneg hylifol a rheoleg, ac fe wasanaethodd ar bwyllgorau rhyngwladol yn ei bwnc. Y mae’n Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Dyfarnwyd iddo radd DSc Prifysgol Cymru, Doethuriaeth er Anrhydedd gan Université Joseph Fourier, Grenoble (Ffrainc), a chan Brifysgol Ystrad Clud (Strathclyde). Yn 2010 daeth yn aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru, ac yn 2014 cafodd ei ethol yn aelod o Academi Rhyngwladol Peirianneg. 

Cyflwynir yr Athro Ken Walters yn ystod Seremoni 5 fore dydd Iau, 14 Gorffennaf.

Graddau Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau  

Karina Shaw

Prifathrawes Gynorthwyol yn Ysgol Penglais, Aberystwyth yw Karina Shaw. Mae ganddi gysylltiad hir ag Ysgol Penglais a hithau wedi bod yn athrawes yno ers 16 mlynedd bellach, a chyn hynny roedd yn ddisgybl yno. Mae hi’n teimlo’n gryf ynglŷn â chynhwysiant cymdeithasol nid yn unig o fewn i’r ysgol ond hefyd yn y gymuned ehangach. Hi yw Cyfarwyddwr Fforwm Cymunedol Penparcau ac mae’r swyddogaeth hon wedi rhoi cyfle iddi fod yn gysylltiedig â phob math o brosiectau cymunedol.  Mae hi hefyd yn frwdfrydig ynghylch cadw hanes lleol a threftadaeth leol yn fyw er budd cenedlaethau’r dyfodol. Hi yw sylfaenydd a Chadeirydd presennol grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau. Yn ei horiau hamdden mae Karina’n gwirfoddoli yn y gymuned ar amrywiaeth o brosiectau ac yn gweithio’n wirfoddol bob wythnos yn siop elusen Tŷ Hafan Aberystwyth. 

Cyflwynir Karina Shaw yn ystod Seremoni 2 brynhawn dydd Mawrth, 12 Gorffennaf.

Aled Haydn Jones

Cafodd Aled Haydn Jones ei eni a’i fagu yn Aberystwyth. Aeth i’r Ysgol Gymraeg, Ysgol Penweddig a Choleg Ceredigion, a dechreuodd ar ei yrfa yn y cyfryngau gyda Radio Bronglais FM a Radio Ceredigion. Ar ôl cynilo’i arian trwy weithio yng nghaffi ei rieni, Caffi Morgan, cymerodd y cam mawr o fynd i Lundain i weithio gyda’r BBC, ac mae wedi bod yno am ugain mlynedd bellach. Yn Radio 1 y BBC dringodd o fod yn rhedwr ar y Radio 1 Roadshows i gynhyrchu sioe frecwast hiraf ei hoedl yr orsaf, sef y Breakfast Show gyda Chris Moyles a’r tîm (gan ddarlledu’r sioe yn fyw o Aberystwyth ar sawl achlysur). Aled hefyd oedd cyflwynydd The Surgery am chwe mlynedd, gan roi cyngor yn fyw ar yr awyr i bobl ifanc yn eu harddegau. Mae Aled yn awr yn rheoli sioeau penwythnos Radio 1 a digwyddiadau megis The Teen Awards a Big Weekend.  Bu hefyd yn gyflwynydd ar S4C, ar WawFfactor, Cân i Gymru ac ar ei sioe ei hun, Llond Ceg, yn trafod materion sy’n wynebu Cymry ifanc.

Cyflwynir Aled Haydn Jones yn ystod Seremoni 7 fore dydd Gwener, 15 Gorffennaf.

Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau

Stefan Osgood

Daeth Stefan James Osgood (1994-2016), yn wreiddiol o Wallasey, Cilgwri (y Wirral), i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2012. Bu’n rhyfeddol o weithgar mewn sawl agwedd ar fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth; roedd yn gapten Tîm Cleddyfa’r Dynion ac yn Is-Lywydd AberSnow (campau eira). Yn Ebrill 2016, ef oedd y myfyriwr cyntaf i ennill Lliwiau’r Brifysgol (Chwaraeon), Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn ac Aelodaeth Oes Anrhydeddus gan Undeb y Myfyrwyr ar ôl marwolaeth. Cyflawnodd a chyfranodd Stefan lawer iawn yn ystod ei gyfnod astudio yn Aberystwyth, a chafodd ddylanwad enfawr ar ei gymheiriaid yn yr amser hwnnw. Mae Stefan a’i gyd-aelodau tîm yn gyfranwyr eithriadol i RAG yn Aberystwyth, a chodwyd dros £10,000 ganddynt i elusen, gan gynnwys i Mind Aberystwyth, er cof am Stefan.

Bydd teulu Stefan Osgood yn derbyn yr anrhydedd er cof iddo yn ystod Seremoni 5 fore dydd Iau, 14 Gorffennaf.

 

AU19816