Darlithydd o Aber ar Restr Menywod Fwyaf Dylanwadol TG

Dr Hannah Dee

Dr Hannah Dee

28 Mehefin 2016

Darlithydd mewn Cyfriadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r nawfed menyw fwyaf dylanwadol ym maes cyfrifiadureg, yn ôl Computer Weekly.

Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r Dr Hannah Dee ymddangos ar restr Computer Weekly o’r 50 menyw fwyaf dylanwadol sy’n gweithio ym maes Technoleg a Gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig.  

Mae’r nawfed safle a ddyfarnwyd iddi un yn uwch na’r llynedd a hi yw’r academydd uchaf o ran ei safle ar y rhestr, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf bum mlynedd yn ôl. 

Ymhlith enwau nodedig eraill ar y rhestr mae Maggie Philbin, Prif Swyddog Gweithredol Teen Tech; Chi Onwurah, Aelod Seneddol Canol Newcastle on Tyne, a Dido Harding, Prif Swyddog Gweithredol Talk Talk.

Roedd Dr Dee yn allweddol yn y gwaith o sefydlu prif gynhadledd y DU ar gyfer israddedigion benywaidd y BCSWomen Lovelace Colloquium.

Mae ei maes ymchwil yn cynnwys dadansoddi ymddygiad pobl trwy ddelweddau cyfrifiadurol; datguddio cysgodion, ac agweddau myfrywyr tuag at astudio gwyddoniaeth cyfriadureg.  

Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, bu’n gweithio mewn swyddi ôl-ddoethuriaeth yn Grenoble yn Ffrainc, Leeds a Kingston upon Thames.

“Dwi wrth fy modd mod i wedi cael lle yn rhestr Computer Weekly o’r 50 menyw fwyaf dylanwadol ym maes Technoleg Gwybodaeth a hynny am y trydedd flwddyn o’r bron. Mae canfod mod i wedi codi i’r nawfed safle yn destun pleser (a syndod) pellach,” meddai’r  Dr Dee.

“Mae cael bod mewn cwmni mor anhygoel a mor ysbrydoledig yn fraint arbennig. Mae ‘na dalent gwirioneddol ymhlith menywod sy’n gweithio ym maes technoleg ac mae Computer Weekly wedi gwneud gwaith arbennig wrth adeiladu, hyrwyddo ac amlygu’r talent yma drwy gyfrwng y digwyddiad blynyddol yma.”