Cyngor yn Cymeradwyo Cynlluniau i Ailagor Pantycelyn

Neuadd Breswyl Pantycelyn

Neuadd Breswyl Pantycelyn

29 Mehefin 2016

Mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi cymeradwyo cynlluniau i ailagor neuadd myfyrwyr Pantycelyn ac yn bwriadu bwrw mlaen gyda’r prosiect i ddarparu llety cyfrwng Cymraeg ar ei newydd wedd erbyn mis Medi 2019. 

Yn eu cyfarfod yn yr Hen Goleg heddiw (Dydd Mercher 29 Mehefin 2016), fe gymeradwyodd aelodau’r Cyngor Opsiwn B o’r cynllun dylunio a gyhoeddwyd mewn adroddiad gan Fwrdd Prosiect Pantycelyn fis diwethaf.

Bydd y gwaith cynllunio yn symud yn ei flaen nawr ac mae’r Cyngor wedi gwahodd Tîm Gweithredol y Brifysgol i gyflwyno adroddiad gerbron y Pwyllgor Cyllid ym mis Hydref yn amlinellu’r opsiynau cyllido ar gyfer y prosiect, gan gynnwys rhoi ystyriaeth i ymgyrch benodol i godi arian ar gyfer Pantycelyn.

Pwysleisiodd y Cyngor bod amgylchiadau ariannol cyfredol y Brifysgol, ynghyd â’r ansicrwydd yn sgil y refferendwm a rheolau cyngor cyllido HEFCW, yn golygu bod yn rhaid sicrhau’r cyllid angenrheidol er mwyn caniatáu i’r Cyngor wneud ymrwymiad cwbl gadarn.

“Mae heddiw yn nodi cam arall ymlaen yn ein bwriad i ddarparu llety o’r radd flaenaf ym Mhantycelyn ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n dod i Aberystwyth yn y dyfodol,” meddai Cadeirydd y Cyngor a Changhellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry.

“Yn ystod ein cyfarfod hefyd, fe wnaethon ni danlinellu’n hymroddiad i Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth yng Ngogerddan, a chytuno i fwrw mlaen gyda’n cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer yr Hen Goleg.”

Mae Bwrdd Prosiect Pantycelyn wedi bod yn cwrdd yn gyson ers mis Medi 2015 i drafod dyfodol y neuadd, gan ymgynghori’n eang gyda myfyrwyr, undebau’r myfyrwyr, staff y Brifysgol a’r gymuned ehangach.

Ar gais y Cyngor, bydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn parhau gyda’i waith gan ganolbwyntio ar weithio gyda phenseiri i ddatblygu’r cynlluniau manwl ar gyfer ailwampio’r neuadd sydd wedi bod yn darparu llety i fyfyrwyr Cymraeg ers 1973.

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) Hanna Merrigan sydd hefyd yn aelod o Gyngor y Brifysgol: “Dwi’n croesawu’r penderfyniad yma heddiw ac fe fydd UMCA yn parhau i weithio gyda’r Brifysgol i sicrhau bod neuadd Pantycelyn yn ail agor ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.”

Bydd y Brifysgol yn parhau i gynnig llety cyfrwng Cymraeg yn neuadd breswyl Penbryn ar gampws Penglais ac fe fydd yr ardaloedd hynny sy’n cael eu clustnodi ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yn cael eu brandio ar wahan er mwyn cynnal y cysylltiad gyda Pantycelyn.