Diemyntau am byth, hyd yn oed y rhai synthetig

04 Gorffennaf 2016

Heddiw bydd academyddion o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn teithio i Lundain i gyflwyno eu hymchwil arloesol ar ddiemyntau synthetig ac ar y gwahanol ffyrdd y gellir eu defnyddio i'n helpu ni yn ein gweithgareddau pob dydd.

Mae gwyddonwyr o brifysgolion ledled Prydain wedi bod yn cynnal gwaith ymchwil i nodweddion eithriadol diemyntau a wnaed gan bobl mewn technolegau newydd cyffrous ac maent wedi bod wrthi'n datblygu ffyrdd o ddefnyddio'r math hwn o ddiemwnt yn niwydiannau peirianneg, electroneg, synhwyro a biomeddygaeth.

Byddant yn cyflwyno eu hymchwil yn Arddangosfa Wyddoniaeth Haf flynyddol y Gymdeithas Frenhinol a fydd yn agor i'r cyhoedd yn swyddogol yfory (5 Gorffennaf 2016). 

Yr Athro Andrew Evans sy'n arwain y ddirprwyaeth o Aberystwyth: “Mae'r ymchwil hwn yn bosib oherwydd yr adeiladwaith arbennig o atomau carbon sydd mewn diemyntau sy'n rhoi'r nodweddion anhygoel iddynt.”

“Yn ogystal â bod y deunydd swmp caletaf y mae'r ddynolryw yn gwybod amdano, mae gwres a sain yn teithio drwyddo yn gynt nag maen nhw'n teithio drwy unrhyw ddeunydd arall ac o ganlyniad y gellir ei ddefnyddio i dynnu gwres oddi wrth offer trydanol ac i drawsgludo sain glir mewn systemau sain”

“Drwy dyfu diemwnt yn y labordy, gellir addasu ei nodweddion yn bwrpasol. Mae mwyfwy o waith yn cael ei gynnal ar y maes hwn, gydag amrywiaeth o ddiwydiannau yn cydnabod y posibiliadau anferth sydd gan ddiemwnt ym mheirianneg a gwyddoniaeth. Mae ein tîm technegol yn Aberystwyth wedi adeiladu model o grisial diemwnt sy'n goleuo i ddangos sut y gallwn reoli'r lliw a'r dargludedd electronig drwy newid safleoedd yr atomau”

Ychwanegodd yr Athro Julie Macpherson, o Brifysgol Warwick: “Pan fydd pobl yn meddwl am ddiemwnt, maent yn aml yn meddwl am emwaith disglair. Ein nod ni yw herio'r syniad hwn, yn dangos bod diemwnt yn gallu bod yn llawer mwy na gem.”

Bydd ymwelwyr i Arddangosfa Wyddoniaeth Haf y Gymdeithas Frenhinol yn gallu cyffwrdd â diemwnt synthetig, a dysgu am nodweddion anhygoel diemyntau, gan gynnwys ei dargludedd thermol (torri rhew â diemwnt), dysgu sut y gellir newid y modd y tyfir y diemwnt fel ei fod yn dargludo trydan, neu synhwyro maes magnetig y ddaear, yn ogystal â chael cyfle i wneud eu 'diemwnt' eu hunain.

Gŵyl sy'n para wythnos, yn dathlu gwyddoniaeth arloesol o wledydd Prydain yw Arddangosfa Wyddoniaeth Haf y Gymdeithas Frenhinol, yn cynnwys 22 o ddangosyddion sy'n rhoi cip ar ddyfodol gwyddoniaeth a thechnoleg; mynediad am ddim.

AU23016