Graddio 2016

11 Gorffennaf 2016

Bydd mwy na 2,400 o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Aberystwyth yr wythnos hon wrth i’r Graddio 2016 ddechrau fory, dydd Mawrth 12 Gorffennaf.

Wythnos y Graddio, sydd eleni’n cynnwys wyth seremoni dros gyfnod o bedwar diwrnod rhwng dydd Mawrth 12 a dydd Gwener 15 Gorffennaf, yw uchafbwynt calendr y Brifysgol ac mae’n ddathliad o gyflawniadau myfyrwyr Aberystwyth.

Mae hefyd yn gyfle i raddedigion ddathlu a mwynhau'r achlysur gyda'u teuluoedd a’u cyfeillion.

Fel yr eglura’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae wythnos y Graddio yn un o uchafbwyntiau gwirioneddol blwyddyn y Brifysgol y gall teulu Aber o staff a graddedigion ei fwynhau gyda’i gilydd. Wrth i garfan eleni o ddarpar-raddedigion edrych ymlaen i ddathlu eu cyflawniadau gyda chyfeillion, teuluoedd a chefnogwyr, fe gawn hefyd y fraint o anrhydeddu wyth Cymrawd newydd, a chyflwyno pedair gradd a Doethuriaeth er Anrhydedd.”

Bydd y seremonïau graddio yn cael ei ffrydio'n fyw ar-lein ar http://www.aber.ac.uk/cy/graduation/video/stream/.

Trefn y seremonïau:

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf

Seremoni 1, 11yb

Yr Ysgol Rheolaeth a Busnes
Yr Ysgol Gelf

Seremoni 2, 3yp

Yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Adran Ieithoedd Modern

Dydd Mercher 13 Gorffennaf

Seremoni 3, 11yb

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Adran Seicoleg

Seremoni 4, 3yp

Adran y Gyfraith a Throseddeg
Adran Astudiaethau Gwybodaeth

Dydd Iau 14 Gorffennaf

Seremoni 5, 11yb

Adran Cyfrifiadureg
Adran Mathemateg
Adran Ffiseg

Seremoni 6, 3yp

Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)

Dydd Gwener, 15 Gorffennaf

Seremoni 7, 11yb

Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Seremoni 8, 3yp

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Adran Hanes a Hanes Cymru

 

AU20816