Y diweddar A.J.S “Bill” Williams MBE yn cael ei anrhydeddu â Chymrodoriaeth

Peter Williams yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd er cof am ei frawd Bill Williams, oddi wrth Drysorydd Prifysgol Aberystwyth Dr Timothy Brain OBE.

Peter Williams yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd er cof am ei frawd Bill Williams, oddi wrth Drysorydd Prifysgol Aberystwyth Dr Timothy Brain OBE.

15 Gorffennaf 2016

Mae’r diweddar A.J.S “Bill” Williams MBE (1920-2016) wedi cael ei anrhydeddu â Chymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth ar ôl ei farwolaeth. 

Yn 2014 enwyd Bill yn un o 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, i gydnabod y gwaith a wnaeth yn addysgu dros 80,000 o blant ysgol yn ystod ei yrfa hir ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1950-2011.

Yn rhan o fenter y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i annog diddordeb mewn gwyddoniaeth ymhlith plant 10–12 oed, dyfeisiodd Bill y ddarlith arddangosfa ‘Science and Energy’, sy’n dangos bod ynni yn digwydd mewn gwahanol ffurfiau sy’n gyfnewidiadwy, lle’r oedd y disgyblion yn cyflawni’r holl arbrofion. Traddodwyd y ddarlith ledled y wlad ar tua 800 o achlysuron.

Bu farw Bill ym mis Mai 2016 yn 95 oed. Derbyniwyd y Gymrodoriaeth er Anrhydedd ar ei ran gan ei frawd Peter Williams er cof iddo.

Gwnaed y cyflwyniad gan yr Athro Andrew Evans o’r Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg.

Cyflwyno A.J.S. “Bill” Williams

Trysorydd, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r achos dros dderbyn AJS (Bill) Williams yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Treasurer, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present the case for Bill Williams as a Fellow of Aberystwyth University.

Er yn bleser, mae hefyd tristwch yn fy nyletswydd heddiw.

The pleasure is however tainted by sadness as Bill passed away in his 95th year in May this year.

Cofiwn Bill fel un o’r cyfathrebwyr gorau mae’r byd gwyddoniaeth wedi gweld.

Bill was one our great science communicators, a fact recognised by his selection as one of the Royal Society of Chemistry’s 175 faces of Chemistry in 2014.

Cychwynodd ei yrfa disglair fel athro gyda’r awyrlu frenhinol yn ystod yr ail rhyfel byd.

After six years as a flying instructor with the RAF he came to Aberystwyth and graduated in 1950 with a first class degree in Chemistry. He then became a lecturer in organic chemistry, and later senior lecturer, always a popular and inspirational member of the department until his retirement. 

Roedd yn amhosib iddo i rhoi’r gorau i ddysgu ar ol ymddeol.

On his retirement, he continued to enthuse our students with his passion for Chemistry. As an honorary tutorial fellow in IBERS, he continued to inspire students in IBERS as recently as last year.

Mae wedi ysbrydioli sawl cenhedlaeth o wyddonwyr ar draws y wlad a bydd llawer yn cofio ei ddarlithoedd arbennig i bobl ifanc.  Rwy’n falch iawn y cefais siawns rhai blynyddoedd yn ol i ddiolch iddo am rhoi’r hwb i mi, fel un o’r bobol ifanc hynny, i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth.

He inspired generations of young scientists across the country with his wonderful lectures; I had the honour to introduce his ‘Science and Energy’ lecture on many occasions, and I remember coming to Aberystwyth as a teenager to hear his lecture on ‘Experiments and Considerations Touching Colours’, and going home to South Wales convinced to become a scientist.

His enthusiasm and commitment brought many awards, including his MBE for Services to Science and to Young people, the Michael Faraday Award Lecture, the B D Shaw Bronze medal and the RSC Silver Medal for Achievement in the Promotion of Chemistry.

Trysorydd, pleser o’r mwyaf yw gwahodd Peter Williams i dderbyn tystysgrif Cymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth ar ran Bill Williams

Treasurer, it is my absolute pleasure to invite Peter Williams to accept this certificate of Fellowship of Aberystwyth University on behalf of Bill Williams.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2016, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 12 Gorffennaf a dydd Gwener 15 Gorffennaf.

Cyflwynir wyth Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Bydd un gradd Doethuriaeth er Anrhydedd yn cael ei chyflwyno. Cyflwynir y rhain i unigolion a fu’n eithriadol llwyddiannus yn eu maes, sy’n nodedig am eu gwaith ymchwil neu wedi cyhoeddi’n helaeth.

Cyflwynir tair gradd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Anrhydeddir y canlynol hefyd:

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Dr Catherine Bishop, enillydd Olympaidd driphlyg, diplomydd gwrthdaro rhyngwladol, siaradwr a hwylusydd profiadol

Natasha Devon MBE, awdur, ymgyrchydd, sylwebydd teledu, a sylfaenydd y Self Esteem Team

Yr Athro Julian Dowdeswell, Cyfarwyddwr Sefydliad Scott i Ymchwil y Pegynnau ac Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt

Charmian Gooch, ymgyrchydd gwrth-lygredd a chyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Global Witness

Ruth Lambert, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth, a fu’n drefnydd Gŵyl Machynlleth a rhaglen arddangosfa MOMA Machynlleth am ymron i ddeng mlynedd ar hugain

Dr Mitch Robinson, arbenigwr yn y gyfraith ryngwladol i Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau sy’n arbenigo mewn iawnderau dynol, ac alumnus o’r Brifysgol.

Syr Evan Paul Silk KCB, Llywydd Grŵp Astudio’r Senedd; cyn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin, Clerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Yr Athro Ken Walters, Athro Ymchwil Nodedig yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol, Cymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Karina Shaw, Prifathrawes Gynorthwyol yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, Cyfarwyddwr Fforwm Cymunedol Penparcau, sylfaenydd a Chadeirydd presennol grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau, a gwirfoddolwr gydag elusennau

Aled Haydn Jones, golygydd radio yng Nghymru, cyflwynydd a chyn-gynhyrchydd gyda Radio 1 y BBC, a chyflwynydd gydag S4C.

Stefan Osgood (1994-2016), a gyflawnodd ac a gyfrannodd yn helaeth wrth astudio yn Aberystwyth, yn enwedig mewn chwaraeon ac fel cyfrannwr eithriadol i ymgyrch codi arian y myfyrwyr yn y brifysgol.

AU21916

 

 

 

Peter Williams yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd er cof am ei frawd Bill Williams, oddi wrth Drysorydd Prifysgol Aberystwyth Dr Timothy Brain OBE.

 

Bill Williams MBE.  Llun: Cymdeithas Gemeg Frenhinol

 

Teulu Bill Williams gyda'r Is-Ganghellor Yr Athro April McMahon