Prifysgol Aberystwyth yn helpu i ailddosbarthu bwyd dros ben yn y dre

O’r chwith i'r dde: Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth PhD Chris Byrne a Heather McClure a myfyriwr blaenorol Chris Woodfield oedd wedi cynorthwyo trefni'r gynhadledd.

O’r chwith i'r dde: Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth PhD Chris Byrne a Heather McClure a myfyriwr blaenorol Chris Woodfield oedd wedi cynorthwyo trefni'r gynhadledd.

20 Gorffennaf 2016

Cynorthwyodd  myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth trefni gynhadledd a wnaeth cael ei ddal ar y 13eg o Orffenaf i weld sut y gellid defnyddio bwyd dros ben o fusnesau bwyd lleol i helpu grwpiau cymunedol yn y dref.

Daeth y digwyddiad â staff o archfarchnadoedd, elusennau a llywodraeth leol a chenedlaethol at ei gilydd i ystyried sut y gellid defnyddio bwyd dros ben o archfarchnadoedd er budd y dref, yn hytrach na’i daflu i ffwrdd.

Roedd hyn yn adeiladu ar waith a wnaed gan fyfyrwyr Cymdeithas Cynaliadwyedd y Brifysgol, gyda chymorth WRAP Cymru, sefydliad rheoli gwastraff Cymru.

Dywedodd yr Is-Ganghellor Dros Dro, John Grattan: “Yn nigwyddiad y llynedd roeddem yn falch o arwyddo cytundeb gyda WRAP yn ymrwymo i leihau’r gwastraff o ddeunyddiau pacio bwyd ar y campws, ac rydym wedi parhau i wneud cynnydd yn y maes hwnnw gyda chasgliadau rheolaidd o wastraff bwyd o breswylfeydd y myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo yn ein henw da fel canolfan academaidd ar gyfer bwyd a ffermio, ac rydym yn falch bod ein myfyrwyr yn awr yn ehangu’r gwaith hwn i'r dref".

Clywodd y gynhadledd hefyd siaradwyr o Gaffi Trawsnewid Abergwaun, prosiect arloesol sy’n troi 850kg o fwyd dros ben yn brydau maethlon a fforddiadwy bob mis, ac sy’n cynnig lle i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ddod at ei gilydd. Gweinwyd cawl a baguettes i’r cynadleddwyr, a baratowyd gan y Treehouse o fwyd dros ben a ddarparwyd gan Morrisons a Lidl.

Cefnogwyd y digwyddiad gan dîm o Brifysgol Bangor sy’n edrych ar y gwerthoedd sy’n cymell pobl sy’n gweithio gyda bwyd, ac sy’n datblygu ffyrdd o atgyfnerthu brwdfrydedd pobl i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol. 

Dywedodd y fyfyrwraig uwchraddedig Heather McClure: “Bu’n hynod ddiddorol a buddiol cael siarad â Morrisons a busnesau lleol eraill, a’u helpu i gysylltu ag elusennau sy’n gallu defnyddio’r bwyd at ddibenion da. Rydym yn teimlo ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y dref, yn ogystal â chael profiad gwerthfawr.”

Roedd y digwyddiad yn adeiladu ar ddigwyddiadau cynharach a drefnwyd gan y Brifysgol i ddod a phobl leol â diddordeb mewn bwyd at ei gilydd, gan gynnwys ei staff arlwyo, busnesau bwyd lleol a staff academaidd - gan gynnwys ymchwilwyr ym meysydd bridio planhigion, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol.

Mae’r digwyddiad yn un o gyfres o ddigwyddiadau sy’n edrych ar sut y gall mynd i’r afael â gwerthoedd ategu gwaith sy’n ymwneud â bwyd, ac mae’n adeiladu ar ymchwil cynharach ar Werthoedd Bwyd a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth.

AU23516