Graddio yn Hwb i Fusnesau Lleol

Graddio Prifysgol Aberystwyth 2016

Graddio Prifysgol Aberystwyth 2016

22 Gorffennaf 2016

Does dim amheuaeth fod seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth yn esgor ar ddathliadau di-ri i lawer o raddedigion llwyddiannus a’u teuluoedd a’u cyfeillion. Mae hefyd yn hwb i economi’r ardal wrth i gannoedd o ymwelwyr ddod i’r dref glan môr i fwynhau miri’r wythnos.

Graddiodd dros 2,400 o fyfyrwyr dros yr wythnos ddiwethaf gydag wyth seremoni adrannol wahanol yn dathlu llwyddiannau ar draws portffolio eang Aberystwyth o gynlluniau gradd ac ymchwil.

Daeth rhieni, perthnasau a chyfeillion balch i’r seremonïau yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau ar gampws Penglais yn Aberystwyth, gan ymweld â’r dref o bob rhan o’r DU a hyd yn oed ymhellach.

Bu croeso mawr i’r ymwelwyr ychwanegol â’r dref a’r ardal a bu’n hwb gwirioneddol i’r economi. Ymhlith y busnesau sydd wedi elwa mae tai bwyta, gwestai, bariau a siopau, wrth i raddedigion a’u gwesteion heidio i Aberystwyth i ddathlu diwedd eu hastudiaethau mewn steil.

Roedd bar a thÅ· bwyta glan môr Baravin yn un o’r busnesau a welodd gynnydd yn eu busnes, yn ôl y rheolwr Gareth Evans:

“Mae wythnos graddio yn wythnos wych i’r graddedigion ac hefyd i fusnesau fel ni. Rydyn ni wedi gweld y nifer fwyaf erioed o gwsmeriaid yn dod i fwynhau ein bwydydd a dathlu eu llwyddiant, boed dros frecwast, cinio neu swper! Roedd pawb mewn hwyliau da ac yn mwynhau popeth sydd gan Aber i’w gynnig. Mae’n rhyfeddol o brysur ond fydden ni ddim yn dymuno gweld dim byd arall.”

Yn y cyfamser, mae’r seremonïau graddio wedi cael effaith ehangach ar dwristiaeth ar draws yr ardal. Mae’r Cynghorydd Gareth Lloyd sy’n gyfrifol am Ddatblygu Economaidd a Thwristiaeth yng Nghabinet Cyngor Sir Ceredigion wrth ei fodd ag effaith gadarnhaol seremonïau graddio Aberystwyth ar yr ardal leol:

“Mae pobl yn teithio o bell i seremonïau graddio Aberystwyth ac mae’n braf gweld cynifer o bobl yn yr ardal, a busnesau’n elwa yn eu sgil. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ansawdd y sector lletygarwch yng Ngheredigion ac mae ein profiadau yn y gorffennol wedi dangos y bydd llawer o’r ymwelwyr hyn yn dychwelyd yn y dyfodol. Mae hyn yn hwb gwirioneddol ar ddechrau tymor yr haf.”

Mae’r Is-Ganghellor Gweithredol yr Athro John Grattan yn credu bod hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y berthynas rhwng y dref a’r brifysgol:

 “Ein cyfnod graddio yw un o uchafbwyntiau ein calendr academaidd ac fe wyddom fod llawer o ffrindiau a theuluoedd yn ymweld â’r ardal am y tro cyntaf yn ystod yr wythnos. Mae’n hanfodol felly ein bod yn defnyddio’r profiad fel llwyfan i arddangos Aberystwyth a Cheredigion ac mae’n galonogol clywed am yr effaith economaidd gadarnhaol ddilynol. Mae dysgu a byw yng nghymuned eithriadol Aberystwyth yn brofiad y bydd ein myfyrwyr yn ei drysori am weddill eu bywydau a hoffwn ddymuno’r gorau i bob un yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Cynhaliwyd seremonïau graddio 2016 Prifysgol Aberystwyth rhwng Gorffennaf 12 a 15 gan gydnabod llwyddiant myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig yn ogystal â llawer o gyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn eu dewis feysydd.


AU23716