Academyddion o Indonesia yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth

Y dirprwyaethau o Indonesia, efo aelodau staff o’r brifysgol.

Y dirprwyaethau o Indonesia, efo aelodau staff o’r brifysgol.

25 Gorffennaf 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu grŵp o academyddion uwch o Indonesia sy’n astudio agweddau ar drin dŵr o gloddfeydd yn y DU, ac yn trafod cysylltiadau academaidd cydweithredol fel rhan o’r rhaglen Indonesia-DU DIKTI.

Roedd y grŵp yn rhan o brosiect a arianwyd gan Fenter Arloesi Byd-eang y Cyngor Prydeinig o’r enw ‘Sefydlu Rhwydwaith o Ragoriaeth Ymchwil mewn Adfer Cloddfeydd yn Ne-ddwyrain Asia’ sy’n cysylltu nifer o sefydliadau yn Indonesia â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Gorllewin Virginia.

Nod y prosiect yw ymdrin â chanlyniadau mwyngloddio yn Indonesia, yn benodol mewn safle pwll glo sylweddol, sy’n debyg i lawer o safleoedd mwyngloddfeydd agored yn y DU.

Gyda £150,000 o gyllid gan y Cyngor Prydeinig, bu’r ddirprwyaeth yn edrych ar y gwersi y mae’r DU wedi’u dysgu o safbwynt trin dŵr llygredig o fwyngloddiau, ac yn ystyried sut y gall Indonesia ddysgu o’r gwaith a gyflawnwyd yma yn y DU.

Roedd sylw hefyd i’r dulliau a ddefnyddir yn y DU i ymdrin â’r dŵr llygredig a ollyngir yn aml o safleoedd pyllau glo a bu’r grŵp hefyd yn ymweld â safleoedd penodol yn Ne Cymru.

Y prif drefnydd oedd Dr Bill Perkins o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ac roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys yr academyddion canlynol:

  • Dr Didik Suprayogo – Is-Ddeon Materion Academaidd, Cyfadran Amaethyddiaeth, Prifysgol Brawijaya
  • Dr Tri Retnaningsih Soeprobowati -  Cyfarwyddwr, Prif Raglen Bioleg, Cyfadran Gwyddoniaeth a Mathemateg, Prifysgol Diponegoro
  • Yr Athro Purwanto Muhadi Tamsir, Cyfarwyddwr Rhaglen y Graddedigion, Prifysgol Diponegoro
  • Yr Athro Rudy Sayoga Gautama - Adran Peirianneg Mwyngloddio, Cyfadran Peirianneg Mwyngloddio a Phetrolewm, Sefydliad Technoleg Bandung

Cynhaliwyd cinio i’r ddirprwyaeth a chynrychiolwyr y brifysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 21Gorffennaf 2016.  

AU23316