Anrhydedd aruchel i ddarlithydd Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth

Dr Tony Cook, Darlithydd Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth

Dr Tony Cook, Darlithydd Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth

26 Gorffennaf 2016

Beth sydd gan y darlithydd Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth Dr Tony Cook, Scott yr Antarctig, J.R.R Tolkien, John Lennon, James Bond, Syr Christopher Wren, a David Bowie oll yn gyffredin?

Yr ateb yw bod asteroidau wedi’u henwi ar ôl pob un ohonynt.

Gwrthrychau creigiog neu fetalig afreolaidd eu siâp sy’n cylchynu’r haul yw asteroidau. Maent fel rheol yn gorwedd yn y gwregys asteroidau, rhwng cylchdroau’r blaned Mawrth a’r blaned Iau.  Maent yn dyddio o’r amser y dechreuodd planedau creigiog ffurfio.

Ychydig wythnosau yn ôl, cafodd yr asteroid a adwaenid gynt fel ‘2003 JO13’ ei ailenwi’n ‘Tonycook’ i gydnabod gwaith Dr Tony Cook ym maes seryddiaeth amatur a mapio topograffeg planedau. 

Mae asteroidau yn amrywio’n eang o ran eu maint, o ychydig fetrau hyd at gannoedd o gilometrau. Nid yw union faint a siâp yr asteroid ‘Tonycook’ yn hysbys, ond amcangyfrifir ei fod rhwng 2.8 a 6.3 cilomedr o ran diamedr. Mae hyn yn cyfateb fwy neu lai i faint trefi Aberystwyth neu’r Amwythig. 

Eglurodd Tony, seryddwr amatur sy’n arbenigo yn y Lleuad: “Roedd yn syndod mawr ac yn anrhydedd clywed eu bod wedi enwi asteroid ar fy ôl.”  

“Nid fi wnaeth ddarganfod yr asteroid - fe’i canfuwyd gan dîm o seryddwyr yn y Catalina Sky Survey ym Mhrifysgol Arizona, nôl yn 2003. Serch hynny, gan fod cymaint o asteroidau’n cael eu darganfod drwy’r amser, weithiau gall gymryd peth amser i’w henwi.

“Rwy’n falch iawn bod y telpyn bach hwn o graig wedi cael ei enwi ar fy ôl, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli eraill sy’n ymddiddori yn y gofod i roi cynnig ar seryddiaeth  amatur neu astudio yn y Brifysgol.”

Ceir rhwng 1 a 3 miliwn o asteroidau yng Nghysawd yr Haul sydd â diamedr sy’n fwy na 1 cilomedr. Yn ffodus, nid oes llawer ohonynt yn dod yn agos i’r Ddaear. Ni fydd asteroid Tonycook byth yn dod yn agosach na 190 miliwn cilomedr i’r Ddaear – felly rydym yn ddigon diogel. 

 

AU23616