Prifysgol Aberystwyth i ddysgu Cymraeg i Oedolion ar ran y Ganolfan Genedlaethol

28 Gorffennaf 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i gwahodd i ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am yr holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion a Phowys yn ogystal â chyrsiau dwys a chyfunol a chyrsiau ar gyfer Lefelau Uwch a Hyfedredd yn Sir Gâr.

Cyngor Sir Gâr fydd yn darparu cyrsiau wythnosol ar gyfer Lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd, gan gynnwys cyrsiau Cymraeg i’r Teulu.

Caiff y cyrsiau i gyd eu darparu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol - corff cynllunio newydd sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y maes.

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith un ar ddeg o ddarparwyr sydd wedi’u gwahodd i weithredu ledled Cymru ar ran y Ganolfan. 

Bydd y drefn newydd, a ddaw i rym ar 1 Awst, yn adeiladu ar y gwaith pwysig a gyflawnwyd yn flaenorol gan chwech o ganolfannau Cymraeg i Oedolion.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Dyma’r tro cyntaf i gorff cynllunio cenedlaethol gydlynu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ac mae ein nod yn glir – denu dysgwyr newydd i’r Gymraeg a chynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth wrth i ni fynd ati i gydlynu’r ddarpariaeth, gan gyflwyno cwricwlwm ac adnoddau cyfoes a chyffrous a bod yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer yr holl wybodaeth am ddysgu’r Gymraeg.”

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth brofiad helaeth ym maes dysgu Cymraeg i Oedolion a dealltwriaeth drylwyr o anghenion dysgwyr yn y Canolbarth a’r Gorllewin. Byddwn yn cynnig ystod atyniadol o gyrsiau safon uchel i gwrdd â'r anghenion amrywiol, gyda'r nod o gynyddu nifer y bobl sy'n dysgu a defnyddio'r Gymraeg.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Ganolfan ar lefel genedlaethol a Chyngor Sir Gâr. Byddwn ni hefyd yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion, gyda staff yr awdurdod yn darparu cyrsiau unwaith yr wythnos ar ein rhan ar lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd.”

Dywedodd Siôn Meredith, Cyfarwyddwyr Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth: “Mae cyfraniad Cymraeg i Oedolion yn allweddol i ffyniant y Gymraeg yn rhai o’i chadarnleoedd yn yr ardal hon, a byddwn yn cydweithio â’n partneriaid addysgol a chymunedol i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw i bawb.’

Bydd digwyddiad anffurfiol i lansio’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei gynnal am 2.00pm Ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf ym Maes ‘D’ ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn Y Fenni.