Gwaddol Daearyddwr ar gyfer Polisi Iaith yng Nghymru

Yr Athro Rhys Jones

Yr Athro Rhys Jones

02 Awst 2016

Polisïau iaith fydd dan sylw wrth i Brifysgol Aberystwyth gynnal darlith flynyddol E.G.Bowen am y trydydd tro ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a hynny am 12pm Ddydd Mercher 3 Awst.

Caiff y ddarlith ei thraddodi eleni gan Bennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Aberystwyth yr Athro Rhys Jones, a fydd yn cloriannu cyfraniad Emrys George Bowen tuag at ddealltwriaethau academaidd a pholisi o ddaearyddiaeth ieithyddol Cymru.

Yn ei ddarlith ‘Gwaddol EG Bowen ar gyfer polisi iaith yng Nghymru’, bydd yr Athro Jones yn gofyn i ba raddau mae gwaith Emrys Bowen wedi llesteirio ein hymdrechion i fynd i’r afael â shifft ieithyddol yng Nghymru ac i lunio polisïau iaith effeithiol.

Bron i hanner canrif yn ôl, fe drafododd yr Athro Emrys Bowen yr angen i ddeall daearyddiaeth Cymru ac yn benodol daearyddiaeth ‘Le Pays de Galles’, sef y ‘gwir’ Gymru, neu’r ardaloedd hynny o Gymru oedd yn fwyaf Cymreig.

Mae ei waith wedi bod yn sylfaen ar gyfer sawl astudiaeth academaidd a pholisi o Gymru a’r iaith Gymraeg, ac yn sail hefyd ar gyfer ein dychymyg daearyddol o natur Cymru fel gwlad ac o ddaearyddiaeth yr iaith Gymraeg.

Yn ystod ei ddarlith, bydd yr Athro Jones yn codi nifer o gwestiynau:

  • Ydy’r ffocws ar y Gymraeg fel iaith gymunedol ac ar arwyddocâd y ‘Fro Gymraeg’ fel cadarnle’r iaith yn arwain at ddiffyg ystyriaeth o’r ffyrdd mwy cymhleth ac amrywiol mae’r iaith yn cael ei defnyddio yn y Gymru gyfoes?
  • Ydy’r dychymyg daearyddol sy’n gysylltiedig â gwaith Emrys Bowen - gyda mapiau o ddirywiad yr iaith yn crisialu’r dychymyg hwn - wedi atal polisïau iaith mwy beiddgar, cyffrous ac effeithiol rhag datblygu?
  • A oes angen datblygu ffyrdd newydd o ddychmygu daearyddiaeth gallu ieithyddol, ynghyd â’r defnydd o’r Gymraeg?

Dywedodd yr Athro Rhys Jones: “Mae’n fraint fawr i fi, fel un sydd wedi derbyn fy addysg uwch i gyd yn yr Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, i draddodi’r ddarlith hon ac i wneud hynny drwy gymryd cipolwg beirniadol ar etifeddiaeth Emrys Bowen ar gyfer testun sydd o bwys mawr i ni fel Cymry.”

Cafodd Darlith Flynyddol E G Bowen ei sefydlu gan Brifysgol Aberystwyth yn 2014 er cof am yr Athro E G Bowen oedd â diddordeb arbennig yn naearyddiaeth gymdeithasol a ffisegol Cymru.

Yn enedigol o Gaerfyrddin, fe ymunodd yr Athro Bowen â staff academaidd Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg Prifysgol Aberystwyth yn 1929 ac roedd dal wrthi’n ysgrifennu ac yn darlithio hyd nes ei farwolaeth yn 1983.

Bydd y ddarlith yn dechrau am 12pm Ddydd Mercher 3 Awst ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol 2016 Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn y Fenni.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth raglen lawn o ddigwyddiadau, darlithiau a gweithgareddau ar y maes eleni ac mae’r manylion i’w gweld ar ein gwefan neu galwch heibio’n stondin ar y maes. 

 

AU25516