Y Brifysgol yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall i’r cynllun Effaith Gwyrdd

Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu, Rebecca Davies yn cyflwyno y Wobr Safon Aur Effaith Gwyrdd i Alan Cole, Technegydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff am IBERS (Carwyn James).

Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu, Rebecca Davies yn cyflwyno y Wobr Safon Aur Effaith Gwyrdd i Alan Cole, Technegydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff am IBERS (Carwyn James).

02 Awst 2016

Bu Prifysgol Aberystwyth yn dathlu trydedd flwyddyn lwyddiannus y cynllun Effaith Gwyrdd ddydd Mercher 27 Gorffennaf mewn digwyddiad gwobrwyo dros ginio.

Mae Effaith Gwyrdd yn gynllun achredu a gwobrwyo amgylcheddol sy’n cael ei redeg gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr mewn sefydliadau ledled y DU.

Ei nod yw hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd ymhlith staff a myfyrwyr a rhoi cyfle iddynt fynd ati’n rhagweithiol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu gweithle.  

Bu i dri thîm ar ddeg o wahanol adrannau ledled y Brifysgol gymryd rhan yn y cynllun yn 2015–16, a chawsant eu harchwilio gan wirfoddolwyr o blith y myfyrwyr ym mis Ebrill.

Cafodd yr holl dimau eu cydnabod am yr hyn y gwnaethant ei gyflawni; dyfarnwyd y Safon Aur i bum tîm, y Safon Arian i chwe tîm arall, a’r Safon Efydd i ddau dîm.

Y timau a gyflawnodd y Safon Aur oedd rhai o Adnoddau Dynol, Cynaliadwyedd Ystadau, IBERS (Carwyn James), y Gwasanaethau Gwybodaeth a’r Athrofa Addysg, Datblygu Proffesiynol a Graddedigion (Cledwyn).

Y timau y dyfarnwyd iddynt y Safon Arian oedd y Grŵp Ymchwil Arsylwi ar y Ddaear a Dynameg Ecosystemau, Yr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg, a thimau o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd, Cynllunio a Llywodraethiant, Seicoleg, ac Ymchwil, Busnes ac Arloesi.

Dyfarnwyd y Safon Efydd i’r tîm Tiroedd Ystadau a Chanolfan y Celfyddydau.

Yn ôl yr Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd Dr Heather Crump, “Mae Effaith Gwyrdd, sy’n rhan o ymgyrch newid ymddygiad Byw’n Wyrddach (e.e. Diffodd Popeth a Myfyrwyr yn Diffodd), wedi tyfu o ran poblogrwydd dros y tair blynedd diwethaf, gyda mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan ac yn ymwneud â’r cynllun.

Mae mentrau newid ymddygiad amgylcheddol megis y cynllun Effaith Gwyrdd yn rhan allweddol o ‘Strategaeth Rheoli Carbon’ y Brifysgol, sydd ar gael yma a thynnir sylw ati yn y Strategaeth Ystadau 2012–2027 http://www.aber.ac.uk/edocker/?pub=22

Ceir rhagor o wybodaeth am Effaith Gwyrdd yma http://www.green-impact.org.uk/ ac ar dudalennau gwe Cynaliadwyedd y Brifysgol http://www.aber.ac.uk/cy/sustainability/

 

AU24616