Cyfrol am y Cywyddau yn Torri Tir Newydd

03 Awst 2016

Bydd llyfr unigryw ar gywyddau Beirdd yr Uchelwyr yn cael ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn y Fenni Ddydd Iau 4 Awst.

Dr Bleddyn Owen Huws o Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth a Dr A. Cynfael Lake o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertaw sydd wedi golygu Genres y Cywydd.

Dyma’r gyfrol gyntaf erioed i ganolbwyntio ar y gwahanol fathau o gywyddau a genid gan Feirdd yr Uchelwyr, sef y beirdd proffesiynol ac amatur a ganai yng Nghymru rhwng tua 1330 a 1600.

Dywedodd Dr Bleddyn Owen Huws, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Detholiad thematig o bedair ysgrif ar ddeg a ymddangosodd yn y cylchgrawn Dwned yn ystod yr un flynedd ar hugain ddiwethaf ar geir yn y gyfrol, a chafodd awduron yr ysgrifau gyfle i ddiweddaru eu cyfraniadau a’u hadolygu’n arbennig ar gyfer y cyhoeddiad hwn.

“Ceir yma ymdriniaethau beirniadol â gwahanol genres y cywydd gan ysgolheigion sy’n arbenigo ar amrywiol agweddau ar farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, ac adlewyrchir ganddynt y feirniadaeth fwyaf blaengar yn y maes.”

Cynhelir derbyniad gwin i lansio’r gyfrol am 1.00 Ddydd Iau 4 Awst ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes y Brifwyl ac mae croeso cynnes i bawb.

Gellir archebu copi o’r gyfrol am £15 yn cynnwys cludiad drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth ar cymraeg@aber.ac.uk