Y Bysgwyr Ffiseg yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd

Stonding y Bysgwyr Ffiseg yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd

Stonding y Bysgwyr Ffiseg yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd

18 Awst 2016

Bydd gan dîm y Bysgwyr Ffiseg o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth stondin yn ardal ‘Gardd Einstein’ yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd am y drydedd flynedd yn olynol ym Mannau Brycheiniog rhwng 18-21 Awst.

Eleni bydd y stondin yn canolbwyntio ar ‘Deithiau i’r Blaned Mawrth’ ac yn trafod cyfraniad Prifysgol Aberystwyth i Gerbyd ESA ExoMars 2020. Bydd yna hefyd Sbectolau Rhithwir Cardbord Google i ddangos taith gyffrous o amgylch crater ar y blaned Mawrth, modelau 3D o gerbydau Mars Rover blaenorol ac adran ryngweithiol ar sut i ddylunio eich cerbyd eich hun.

Mae’r Bysgwyr Ffiseg yn grŵp ag arweinir gan fyfyrwyr sy’n ymroddedig i ennyn diddordeb y cyhoedd mewn gwyddoniaeth. Fe’u cynorthwyir gan yr Adran Ffiseg ac mae ganddynt gysylltiadau â’r Sefydliad Ffiseg yng Nghyrmu, sydd wedi bod mor garedig â’u hariannu.

Dywedodd Carys Huntly, aelod o dîm y Bysgwyr Ffiseg: "Mae cael bod yn rhan o ddigwyddiadau, fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd, o fudd i bawb. Mae’n bwysig mynd allan a thanio brwdfrydedd y cyhoedd ynghylch gwyddoniaeth, yn ogystal â rhannu ein hymchwil ddiweddaraf. Mae’n gyfle gwych i’n myfyrwyr-wirfoddolwyr gael profiad o gyfathrebu gwyddoniaeth, ac yn gyfle ardderchog i fod yn rhan o gyfnod cynllunio’r prosiect."

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ddigwyddiad annibynnol sy’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth, comedi, llenyddiaeth a gwyddoniaeth.