Agor Drysau’r Hen Goleg

31 Awst 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o wahodd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddarganfod mwy am yr Hen Goleg fel rhan o ddigwyddiad Ddrysau Agored 2016 sy’n cael ei gynnal Ddydd Iau 8 Medi.

Drysau Agored yw'r digwyddiad gwirfoddol mwyaf yn y sector treftadaeth yng Nghymru ac mae’n rhan o raglen Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, a gynhelir mewn 50 o wledydd led led Ewrop.

Mae'r Hen Goleg yn adeilad rhestredig Gradd I sy’n wynebu'r môr yn Aberystwyth. Gyda thyrrau castellog a gargoiliau ar y parapetau, yr adeilad eiconig hwn yw man geni ysgolheictod yng Nghymru ac mae’n un o adeiladau mwyaf nodweddiadol y Deyrnas Gyfunol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fe'i codwyd yn wreiddiol fel gwesty gan y contractwr rheilffordd Thomas Savin , ac fe’i prynwyd gan Bwyllgor Prifysgol Cymru yn 1867 am £10,000, cyfran fechan o'r swm y costiodd i’w adeiladu. Cyrhaeddodd y myfyrwyr cyntaf yn mis Hydref 1872.

Mae’r Brifysgol bellach yn bwriadu trawsnewid yr adeilad i fod yn ganolfan integredig ar gyfer treftadaeth, diwylliant, dysg a chyfnewid gwybodaeth yng nghalon ardal ddiwylliannol yng nghanol hanesyddol y dre. Y bwriad yw darparu cyfleoedd unigryw a fydd o fudd i’r Brifysgol, y gymuned leol, Canolbarth Cymru a gweddill y wlad.

Mae’r cynlluniau ar gyfer adfywiad yr Hen Goleg yn cynnwys amgueddfa, oriel gelf, siop a chaffi. Bwriedir i denantiaethau artistiaid, digwyddiadau a llogi ystafelloedd ar gyfer grwpiau cymunedol fod yn rhan bwysig arall o fywyd newydd yr Hen Goleg. Mae'r cynlluniau  yn ymestyn y tu hwnt i'r Hen Goleg ei hun ac yn cynnwys datblygiadau ar gyfer Ystafelloedd y Cynulliad ac adeiladau  cyfagos arall.

Gallai cyfanswm y prosiect olygu buddsoddiad o filiynau o bunnoedd fesul cam dros y blynyddoedd hyd at agoriad swyddogol yn ystod pen-blwydd y Brifysgol yn 150 oed yn 2022.

Dywedodd y Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni’n falch iawn ein bod yn rhan o Ddrysau Agored 2016 sy’n cael ei drefnu yng Nghymru gan CADW. Dyma gyfle arbennig i ddarganfod a mwynhau’r straeon tu ôl i’r Hen Goleg. Bydd cyfle i ymuno ag un o’n teithiau tywys, i ddysgu mwy am hanes yr adeilad a chanfod rhagor am y cynlluniau adfywio cyffrous.

“Meini Hen Goleg Aberystwyth yw testun un o’r sgyrsiau difyr sydd ganddom ni eleni, lle bydd y Dr Tim Palmer o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol yn trafod y gwahanol fathau o gerrig naturiol a defnyddiwyd wrth adeiladu’r coleg ger y lli. Felly dewch draw i glywed mwy ac i ddathlu rhan bwysig o dreftadaeth y dre. Y newyddion da arall yw bod y cyfan am ddim ac mae na groeso cynnes i bawb.”

Mae’r rhaglen lawn gan gynnwys amserau’r teithiau tywys i’w gweld ar wefan Prifysgol Aberystwyth.