Aberystwyth ar Restr Fer Gwobrau Addysg Uwch

Gwobrau 2016 y Times Higher Education

Gwobrau 2016 y Times Higher Education

01 Medi 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth ar y rhestr fer ar gyfer un o brif dlysau Gwobrau 2016 y Times Higher Education (THE).

Mae’r Brifysgol yn y chwech olaf yn y categori ar gyfer y sefydliad addysg uwch sydd wedi dangos y Gwelliant Gorau ym Mhrofiad Myfyrwyr.

Ymhlith y pump sefydliad eraill mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd, St George (Prifysgol Llundain), Prifysgol Surrey, Prifysgol Ulster a St John (Prifysgol Caerefrog).

Caiff yr enillydd ei ddewis ar sail data sy’n cael ei gasglu ar ran y THE gan Arolwg Profiad Myfyrwyr YouthSight sy’n gofyn I 20,000 o fyfyrwyr i ddatgan barn ar safonau academaidd, dysgu., bywyd cymdeithasol ac adnoddau eu prifysgol.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: “Mae gwobrau blynyddol y THE yn cael eu cydnabod fel ‘Oscars’ y byd addysg uwch felly’n naturiol rydyn ni wrth ein boddau bod Aberystwyth ar y rhestr fer eleni. Rydyn ni’n arbennig o hapus ein bod ar y rhestr fer ar gyfer y Gwelliant Gorau ym Mhrofiad Myfyrwyr gan fod darparu profiad heb ei ail i fyfyrwyr wrth wraidd bod dim rydyn ni’n ei wneud yma.

“Daw’r newyddion ychydig wythnosau’n unig ers cyhoeddi canlyniadau Arolwg Myfyrwyr yr NSS oedd yn rhoi Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac ymhlith y pedair prifysgol gorau o’i bath yn y DU o ran bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr felly mae'r enwebiad diweddaraf yma yn brawf pellach bod Aberystwyth yn cynnig amgylchedd eithriadol o ran dysgu a byw."

Caiff enillwyr Gwobrau 2016 y THE eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Llundain ym mis Tachwedd.