Croeso Cynnes Cymreig i’n Myfyrwyr Newydd

22 Medi 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu myfyrwyr eleni drwy gynnal Penwythnos y Croeso Mawr gyda’r prif gweithgareddau yn digwydd o gwmpas Canolfan y Celfyddydau yn ystod 23-25 Medi 2016.

Bydd Canolfan y Celfyddydau yn fan cwrdd canologo lle gall myfyrwyr gael paned a chroeso cynnes, gael casglu  allweddi, a chael chyfle i ofyn cwestiynau i aelodau allweddol o staff.

Bydd ‘Tîm A’, sef gwirfoddolwyr o Undeb y Myfyrwyr, hefyd ar gael ar draws y campws a’r prif fannau cyrraedd fel yr orsaf reilffordd i helpu gydag unrhyw ymholiadau fydd gan y myfyrwyr newydd a’u theuluoedd.

Dywedodd, Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Aberystwyth: “Mae gan Aberystwyth enw da erioed fel prifysgol groesawgar mewn cymuned gyfeillgar. Mae profiad y myfyriwr yn hollbwyisg i ni ac mae cyflwyno Penwythnos y Croeso Mawr eleni yn gam cyntaf i’n his-raddedigion newydd o ran dysgu a byw mewn amgylchedd eithriadol.

“Hoffem ddiolch i holl staff y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a’n myfyrwyr sy’n gwirfoddoli am eu gwaith caled ac i bobl Aberystywth am roi croeso mor arbennig i’n myfyrwyr newydd!”

Nos Wener 23 Medi, bydd cerddoriaeth fyw gyda’r canwr lleol Calum Duell ac eraill gan roi cyfle i fyfyrwyr newydd ymgyfarwyddo â'u hamgylchedd newydd ac i fyfyrwyr sy’n dychwelyd gael cwrdd a hen ffrindiau a hel straeon am yr haf.

Ddydd Sadwrn 24 Medi bydd staff y Brifysgol yn paratoi i groesawu rhagor o fyfyrwyr newydd i’r campws. Ymhlith y gweithgareddau fydd ar gynnig yn ystod y dydd mae gwersi Pilates am ddim ac arwerthiant mawr yn Undeb y Myfyrwyr o nwyddau ‘bron yn newydd’ i’r cartref.

Ddydd Sul bydd seremoni croesawu myfyrwyr rhyngwladol yn ogystal â chinio ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg lle bydd cyfle i ganfod mwy am waith UMCA a changen Coleg Cymraeg Cenedlaethol y Brifysgol. Bydd y Ganolfan Celfyddydau yn cynnig pizza am ddim a chyfle i fyfyrwyr newydd ymlacio ar ôl penwythnos prysur o ymgartrefu yn Aberystwyth.

Trwy gydol y penwythnos hefyd bydd sesiynau rhagflas chwaraeon am ddim, teithiau o amgylch Llyfrgell Hugh Owen a’r Hen Goleg, a gostyngiad hanner pris ar docynnau sinema yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Mae’r Brifysgol wedi trefnu bod bws yn rhedeg rhwng 8yb – 8yh  a Dydd Sul 10yb – 6yh Dydd Gwener a Dydd Sadwrn i gasglu dyfodiaid newydd o’r orsaf trên. Mae croeso i staff y Brifysgol ddefnyddio’r gwasanaeth yma hefyd. Bydd y bws yn rhedeg rhwng y dref, campws Penglais a Llanbadarn ac fe fydd ganddo frandio Prifysgol Aberystwyth amlwg.

Mae rhagor o wybodaeth am Benwythnos Y Croeso Mawr a’r Wythnos Ymgartrefu i’w chael ar ein wefan:  https://www.aber.ac.uk/cy/applicants/post-results/