#HoliAber

26 Medi 2016

Dyma’r adeg o'r flwyddyn pan fydd nifer o fyfyrwyr chweched dosbarth yn dechrau meddwl am fynd i'r Brifysgol. Pa Brifysgol ddylen i ei dewis? Pa gwrs ddylen i astudio? Sut ydw i'n llenwi fy ffurflen gais UCAS?

Dyma'r math o gwestiynau sy'n aml yn codi. Mae nifer yn pryderu hefyd am eu datganiad personol - ond does dim angen poeni. Mae Prifysgol Aberystwyth yma i helpu, gyda thîm gwybodus wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych o ran eich cais UCAS ac am astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Anfona neges dros Trydar atom ni drwy ddefnyddio'r hashnod #HoliAber a bydd un o'n tîm yn ymateb.

Cofia, y themâu allweddol ar gyfer dy gais UCAS yw: Pam wyt ti wedi dewis dy gwrs, eich sgiliau a'ch gweithgareddau tu allan i'r ysgol, a beth yw eich dyheadau am y dyfodol a sut y gall eich cwrs eich helpu i gyflawni'r rhain.

Pob lwc gyda dy ffurflen gais UCAS! Os hoffet ti gael copi o'n cynllunydd 'Sgwennu Datganiad Personol', anfona ebost at cyswllt-ysgolion@aber.ac.uk


Dyma rai o'r dyddiadau pwysig i gofio wrth gwneud cais i fynd i'r Brifysgol yn 2017: