Ysgol Gelf yn prynu casgliad prin o ddelweddau gan ffotograffydd Cymreig

Llun o Audrey Hepburn gan Angus McBean. ©Ystad Angus McBean.

Llun o Audrey Hepburn gan Angus McBean. ©Ystad Angus McBean.

27 Medi 2016

Mae Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi prynu casgliad o hen brintiau gan un o ffotograffwyr mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif.

Ganed Angus McBean yng Nghasnewydd yn 1904 a bu'n gyfrifol am dynnu llun rhai o ser mwyaf eiconig o fyd y theatr a'r sgrin rhwng y 1930au a'r 1980au.

Ymhlith rhai o'r enwau mawr a ddaeth i'w stiwdios yn Ffordd Belgrave ac yna Covent Garden yn Llndain, roedd Audrey Hepburn, Laurence Olivier a Vivien Leigh.

Mae un o'i luniau mwyaf adnabyddus yn dangos aelodau'r Beatles yn edrych dros ochr balcon concrit ar gyfer clawr eu halbwm Please, Please Me.

Yn yr Oriel Portreadau Genedlaethol yn Llundain y mae copiau gwreiddiol y lluniau hynny o'r Beatles, cafodd llunaiu eraill McBean o berfformwyr enwog y cyfnod fel The Beverly Sisters a Cliff Richard eu defnyddio ar gyfer cloriau albwm ac maen nhw bellach yn rhan o gasgliad Aberystwyth.

Yn ogystal a'u luniau stiwdio mwy confensiynol, roedd McBean hefyd yn arloesi ym meas ffotograffiaeth swreal ac fe fyddai'n creu gosodiadau brueddwydiol yn ei stiwdio. 

Yn un o'r ffotograffau du a gwyn trawiadol sy'n rhan o gasgliad Ysgol Gelf Aberystwyth, mae pen ac ysgwyddau Audrey Hepburn yn dyrchaf o dirlun anialwch gyda thair cholofn Rhufeinig yn ymddangos yn bitw o'u cymharu. 

Yn ystod y 1940au, McBean oedd prif ffotograffydd thai o theatrau mwayf blaenllaw Prydain fel Sadler's Wells, y Royal Shakespeare Company yn Stratford a'r National Theatr yn yr Old Vic yn Llundain. 

Roedd galw mawr am ei waith hefyd o dy cylchgronnau fel Vogue, Tatler a'r Picture Post.

Pennaeth yr Ysgol Gelf yn Aberystwyth, Robert Meyrick, fu'n gyfrifol am y am wneud cais i brynu casgliad o luniau'r ffotograffydd Cymreig.

"Mae'r casgliad yma o luniau yn adlewyrchu ehangder gwaith Angus McBean dros gyfnod o hanner canrif," meddai. "Dyma'r casgliad mwyaf cynrychioladol o'i hen brintiau ym meddiant unrhyw sefydliad cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

"Mae nifer o'r lluniau yn brin, mewn rhai achosion yn unigryw, ac nid yw'r rhan fwyaf ohonyn nw wedi eu gweld o'r blaen nac yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw gasgliadau eraill. Cafodd nifer ohonyn nhw eu datblygu o negatifs nad sy'n bodoli mwyach am eu bod wedi'u difetha naill ai pan gafodd stiwdio McBean ei bomio yn ystod y rhyfel; wedi'u gwaredu gan McBean ei hun wrth iddo wagio ei stiwdio, neu pan gafodd casgliad o negatifs platiau gywdr eu difetha wrth gael eu cludo o Brydian i Brifysgol Harvard.

"Er mai yng Nghymru y cafodd ei eni, nid yw gwaith McBean yn cael ei gynrychioli mewn casgliadau eraill yng Nghymru. Mae'r 71 o brintiau yma hefyd yn cynnig casgliad mwy cynrcyhioladol o waith yr artist na'r ddau gasgliad arall o'i waith sydd i'w cael yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol ac yng Nghanolfan Shakespeare.

Mae'r casgliad o brintiau yn cynnwys y ser canlynol o lwyfan y West End:

  • Laurence Olivier (Hamlet, 1937)
  • Peggy Ashcroft (Portia, 1938)
  • Claire Luce (Becky Sharp, 1946)
  • Anthony Quayle (Falstaff, 1951)
  • John Gielgud (Wolsey, 1958)
  • Michael Redgrave and Maggie Smith (The Master Builder)
  • Ivor Novello and Vivien Leigh (The Happy Hypocrite)
  • Edith Evans (The Dark is Light Enough)
  • Sybil Thorndyke (Treasure Hunt)
  • Vivien Leigh and Bonar Colleano (A Streetcar Named Desire)

O fewn yr Ysgol Gelf yn Aberystwyth, bydd y casgliad yn cael ei ddefnyddio i ddysgu myfyrwyr sy'n defnyddio technegau ffotograffiaeth yn ogystal a'r rheiny sy'n dilyn cyrsiau hanes celf. Mae potensial ymchwil mawr hefyd yn perthyn i'r casgliad o ran ymchwilwyr preswyl ac ymwelwyr. 

Y bwriad yw cynnal arddangosfa adolygiadol a chyhoeddiad sy'n cydfynd yn 2017-18 fydd yn cynnwys benthyciadau o gasgliadau preifat a chyhoeddus eraill.