Astudiaeth i gamdrin pobl hŷn yn penodi swyddog cefnogi newydd

Chwith i Dde: Alan Clarke, Sarah Wydall a John Williams

Chwith i Dde: Alan Clarke, Sarah Wydall a John Williams

04 Hydref 2016

Mae’r cyntaf o ddau swyddog cefnogi arbennig yn dechrau ar ei swydd heddiw (Dydd Mawrth 4 Hydref 2016) fel rhan o brosiect arloesol sy’n anelu at roi terfyn ar gam-drin pobl hŷn.

Dan arweiniad staff o Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeuluso, Ysgol y Gyfraith Aberystwyth, nod prosiect Dewis yw codi’r llen ar broblem  gyson gudd lle mae pobl dros 60 yn cael eu camdrin yn y cartref.

Bydd Dewis yn canolbwyntio ar ganfod atebion, gan gynnwys hyrwyddo dulliau adferol lle mae’r pwyslais ar feithrin cymodi rhwng y dioddefwr a’r sawl sy’n cam-drin.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae dros 39,000 o bobl dros 60 yn dioddef camdriniaeth yn y cartref ond yn aml nid yw’r achosion yma yn dod at sylw’r awdurdodau, meddai Sarah Wydall, cymrawd ymchwil sy’n un o dri Phrif Gyd-ymchwilydd ar y prosiect.

“Rydyn ni’n gwybod bod y boblogaeth yn heneiddio’n gynyddol ond y gwir yw nad yw pobl hŷn yn hawlio’r penawdau nac yn cael cymaint o sylw a’r genhedlaeth iau. Maen nhw’n gallu bod yn anweledig yn y gymdeithas ac o ganlyniad, nid ydynt bob amser yn cael y sylw maen nhw ei angen,” meddai Ms Wydall.

“Roedd yn sioc i mi sylweddoli nad yw Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr, er enghraifft, yn cynnwys pobl dros 60 yn ei ffigurau. Un o brif amcanion prosiect Dewis felly yw amlygu cynifer o bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn y cartref ac i greu dealltwriaeth go iawn o gyd-destun niwed o’r fath.”

Fel rhan o’r prosiect, bydd y Swyddog Cefnogi Dewis sydd newydd ei benodi yn treulio hyd at 18 mis yn gweithio gyda phobl hŷn sy’n dioddef trais yn y cartref yng Nghaerdydd. Bydd ail swyddog yn cael ei benodi i weithio yn Sir Gâr ym mis Ionawr 2017.

Eu gwaith nhw fydd trafod gyda dioddefwyr y dewisiadau gweithredu gwahanol sydd ar gael iddyn nhw - gan gynnwys mynd ag achos i lys troseddol neu lys sifil, neu ddilyn llwybr adferol.

Mae John Williams yn Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Brif Gyd-ymchwilydd ar y prosiect: “Perthnasau teulu agos sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r cam-drin yn y cartref yn erbyn pobl hŷn ac o ganlyniad, mae dioddefwyr yn aml yn gyndyn i ddwyn cyhuddiadau troseddol. Ein gobaith ni yw y bydd ein hymchwil yn arwain at greu model newydd o gyfiawnder troseddol a fydd yn ymateb yn effeithiol i anghenion pobl hŷn.

“Nod ymarferedd adferol yw trwsio cysylltiadau agos sydd wedi eu chwalu o ganlyniad i anghydfod neu’r niwed a achoswyd. Bydd ein swyddogion cefnogi yn trefnu cyfarfodydd teulu i drafod ffyrdd o symud ymlaen a byddan nhw’n gweithio gyda’r teuluoedd ar gynllun i roi terfyn ar y niwed. Gall hyn hefyd gynnwys pennu camau gweithredu penodol ar ran y sawl sy’n cam-drin megis eu bod yn gorfod dilyn rhaglen camddefnyddio sylweddau.”

Bydd y tîm ymchwil yn Aberystwyth yn defnyddio’r astudiaethau achos go iawn sy’n cael eu datblygu gan y swyddogion cefnogi fel sylfaen ar gyfer adroddiad o bwys ar gamdrin pobl hŷn yng Nghymru.

Caiff canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru pan ddaw’r prosiect i ben yn 2018.

Dywedodd yr Athro Alan Clarke, Prif Gyd-ymchwilydd ar brosiect Dewis: “Amcangyfrifir bod lefelau camdrin pobl hŷn yng Nghymru yn uwch ar gyfartaledd na gweddill y Deyrnas Unedig ond er mai canolbwyntio ar dystiolaeth o’r rhan yma o’r byd mae’n hymchwil ni, mae hon yn broblem fyd-eang ac fe fydd arwyddocâd rhyngwladol i’n canfyddiadau.

“Rydym yn boblogaeth sy’n heneiddio ac mae tipyn i’w ddathlu ynghylch y broses o dyfu’n hŷn ond rhaid bod yn ymwybodol nad yw pob perthynas mor bositif neu mor adeiladol ag y byddai pawb yn dymuno.”

Bydd swyddog cefnogi cyntaf Dewis yn gweithio o swyddfeydd Cymru Ddiogelach ym Mae Caerdydd.

Barbara Natasegara yw Cyd Brif Swyddog Gweithredol Cymru Ddiogelach: “Mae cam-drin pobl hŷn yn rhywbeth sy’n digwydd yn ddyddiol yma Nghymru; eto i gyd `dyw nifer o bobl hŷn dal ddim yn siŵr sut i ddod o hyd i gefnogaeth neu’n gwybod fod cefnogaeth o’r fath hyd yn oed yn bodoli. Mae Cymru Ddiogelach yn gweithio gyda phobl fwyaf bregus cymdeithas bob dydd ac mae’r canran yn eu plith o ddioddefwyr hŷn sy’n cael eu cam-drin yn destun pryder.”

“Rydyn ni wrth ein bodd cael gweithio ochr yn ochr â phrosiect Dewis i ddatblygu dull  newydd o gefnogaeth ar gyfer dioddefwyr hŷn a’u teuluoedd, ac i weithio yn y pendraw tuag at roi terfyn am byth ar gam-drin pobl hŷn.”

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn gweithio’n agos ar y prosiect gyda phartneriaid eraill gan gynnwys Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Gâr a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Cafodd y prosiect ymchwil £1.3m ar Gamdrin Pobl Hŷn gymhorthdal o £890,000 gan Gronfa Fawr y Loteri yn 2015.