Yr Athro Jeremy Black i draddodi Darlith Flynyddol uchel ei bri Kenneth N. Waltz

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

10 Hydref 2016

Bydd yr hanesydd disglair yr Athro Jeremy Black yn traddodi darlith Kenneth N. Waltz eleni, ‘War and International Relations 1400-2100’ am 6pm ddydd Iau 13 Hydref, ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae Darlith Flynyddol Kenneth N. Waltz yn denu ysgolheigion nodedig i Aberystwyth i siarad am faterion oedd yn hollbwysig i’r diweddar Ken Waltz, damcaniaethwr cysylltiadau rhyngwladol blaenllaw dros nifer o ddegawdau.

Caiff y ddarlith eleni ei thraddodi gan un o haneswyr disglair y DU ar hyn o bryd, yr Athro Jeremy Black.  Teitl ei ddarlith yw: ‘War and International Relations 1400-2100’.

Mae’r Athro Jeremy Black, o Brifysgol Caerwysg, yn sylwebydd adnabyddus ar ryfel ar y radio, ac mae’n traddodi darlithoedd ar draws y byd. Mae’n awdur toreithiog, a’i gyfrol ddiweddaraf yw The Power of Knowledge: How Information and Technology Made the Modern World

Bydd darlith yr Athro Black yn cyfuno ei wybodaeth enfawr o gysylltiadau rhyngwladol a hanes rhyfel.

Dywedodd yr Athro Ken Booth o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwrthdaro rhyngwladol, mae’r ddarlith hon yn gyfle prin i wrando ar ysgolhaig sy’n un o’r ychydig unigolion yn unrhyw le sydd â’r awdurdod, yr wybodaeth a’r hyder i gyflwyno panorama helaeth o ffenomen rhyfel dros saith canrif.”

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais am 6pm ddydd Iau 13 Hydref 2016. Mae croeso cynnes i’r cyhoedd yn ogystal ag i aelodau’r gyfadran a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Dewch yn gynnar i sicrhau sedd.