Darlith Bywgraffydd Keats yn yr Hen Goleg

Yr Athro Nicholas Roe

Yr Athro Nicholas Roe

18 Hydref 2016

Bydd arbenigwr nodedig ar fywyd y bardd John Keats yn traddodi darlith gyhoeddus yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, Ddydd Mercher 19 Hydref 2016.

Teitl y cyflwyniad gan yr Athro Nicholas Roe o Brifysgol St Andrews fydd ‘Ysbrydion John Keats’.

Yr Athro Roe yw awdur y llyfr ‘John Keats: A New Life’ a ddisgrifiwyd yn y Sunday Times fel campwaith oedd mor hynod, awdurdodol a llawn dychymyg y dylai godi ofn ar holl fywgraffwyr Keats y dyfodol.

Mae croeso cynnes i bawb yn y digwyddiad rhad ac am ddim yma sy’n cael ei drefnu gan Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad âa phrosiect Bywyd Newydd i’r Hen Goleg.

Dywedodd Richard Marggraf Turley, Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae un o’r ysgolheigion mwyaf dylanwadol ar Keats, Nicholas Roe, yn ein gwahodd i edrych eto, ac i edrych yn wahanol, ar y bardd yma sydd ar un wedd mor gyfarwydd.

“P’un ai ei fod yn datgelu cysylltiad dwfn John Keats â gwleidyddiaeth ei ddydd, neu’n dangos i ni egnïon swbwrbaidd ei weledigaeth farddol, mae dadansoddiad Roe yn ein cyflwywno i awdur sy’n fwy dynol ac sydd yn y pendraw yn perthyn yn fwy i ni.” 

Bydd derbyniad diodydd am 6yh cyn dechrau’r ddarlith am 6.30yh. Mae manylion am y noson a digwyddiadau eraill y Brifysgol i’w cael ar ein gwefan.