Awdur o Geredigion yw Cymrawd Ysgrifennu newydd y Brifysgol

Cynan Jones (Llun gan: Bernadine Jones)

Cynan Jones (Llun gan: Bernadine Jones)

19 Hydref 2016

Mae awdur arobryn o Aberaeron wedi ei benodi yn Gymrawd Ysgrifennydd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd Cynan Jones yn cynorthwyo myfyrwyr i wella’u hysgrifennu academaidd, i werthuso drafftiau cychwynnol neu a chael cyngor adeiladol.

Fe enillodd Cynan Jones y wobr ffuglen yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn (Saesneg) yn 2015 a hynny ar gyfer ei nofel ‘The Dig’. Mae hefyd wedi troi ei law at sgriptio teledu gan gyfrannu at drydedd gyfres Y Gwyll | Hinterland.

Dywedodd ei fod yn edrych mlaen yn fawr at y bennod nesaf yma mewn gyrfa amrywiol lle mae wedi gweithio fel ysgrifennydd copi yng Glasgow, fel athro cyflenwi yng Ngheredigion ac fel masnachwr gwin.

“O fod wedi gweithio’n flaenorol fel athro ac fel un sy’n gyfarwydd â thrin a thrafod gyda phobl yn rheolaidd, mae gweithio fel awdur llawn-amser yn gallu golygu bod rhywun ychydig yn ynysig o’r byd tu fas! Dwi’n cael gwefr o feddwl y bydd y rôl yma yn cynnig cyfle i mi gwrdd nid yn unig â’r genhedlaeth nesaf o sgwennwyr, gwyddonwyr ac academyddion, ond y bydd hefyd yn caniatáu i mi rannu rhywfaint o’m mhrofiad a’m harbenigedd gyda myfyrwyr a’u cynorthwyo i gyrraedd eu potensial llawn trwy weithio gyda nhw i gyfleu eu syniadau mor glir ac mor effeithlon â phosib.

“Dwi’n gredwr mawr nad yw ysgrifennu yn cael y clod mae’n haeddu fel disgyblaeth dechnegol. Mae’n bwysig cofio bod cerddorion yn ymroi yn llwyr i berffeithio’u crefft trwy oriau di-ben-draw o astudio ac ymarfer. Ond dyw’r ffaith ein bod yn siarad iaith ddim o reidrwydd yn golygu ein bod yn gallu ei sgwennu hi i’r safon uchaf.

“Dwi’n gweld fy rôl i yn bennaf fel un sy’n caniatáu i fi ddangos i fyfyrwyr bod modd dysgu technegau ysgrifennu trwy ymarfer a thrwy ymroddiad, ac nid sgil gyfriniol mohoni. Fy ngobaith yw sicrhau bod gan fyfyrwyr dechnegau cryf a’u bod yn gallu addasu’r rhain at eu gofynion academaidd unigol.”

Yn awdur pedair nofel fer, cafodd fersiwn talfyredig o’i lyfr Cove ei gyhoeddi’n ddiweddar yng nghylchgrawn nodedig The New Yorker cyn ei gyhoeddi gan Granta ddechrau fis Tachwedd.

Mae Cynan Jones yn annog pob myfyriwr sydd eisiau cymorth i drefnu apwyntiad drwy anfon e-bost at writers@aber.ac.uk.