Myfyrwraig yn ymuno â phanel beirniadu llyfrau plant

Chwith i’r dde: Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Jenna Hughes a Joanna Jeffery o Brifysgol Aberystwyth, ac Eirlys Wyn Parry o Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, â rhai o'r llyfrau sy’n gymwys ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2017.

Chwith i’r dde: Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Jenna Hughes a Joanna Jeffery o Brifysgol Aberystwyth, ac Eirlys Wyn Parry o Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, â rhai o'r llyfrau sy’n gymwys ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2017.

31 Hydref 2016

Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i dewis i fod yn aelod o banel beirniadu gwobrau Tir na n-Og 2016.

Enillodd Jenna Hughes gystadleuaeth i gael bod yn feirniad myfyrwyr ar y panel ar gyfer y gwobrau sy’n cydnabod awduron llyfrau i blant sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.

Mae tair gwobr ar gyfer awduron Cymraeg a Saesneg, ac fe fydd Jenna yn helpu dewis y llyfr Saesneg gorau i blant.

Mae Joanna Jeffery yn Gymrawd Dysgu yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth a bu’n annog myfyrwyr i gymryd rhan yn y gystadleuaeth oedd yn gofyn am ysgrifennu adolygiad o lyfr.

“Mae’r Ysgol Addysg wedi bod yn darparu beirniad o blith ei myfyrwyr ar gyfer panel dethol Tir na n-Og ers dwy flynedd bellach ac rydym wrth ein bodd bod hynny’n parhau gyda dethol Jenna,” meddai Joanna Jeffery.

“Yn ei chais buddugol, fe ddywedodd y beirniaid bod Jenna wedi dangos dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng y tair elfen sydd eu hangen er mwyn cael plentyn i ddarllen: plentyn sydd eisiau darllen; oedolyn sydd eisiau eu hannog i ddarllen; a rhywbeth sy’n werth ei ddarllen.

“Jenna yw’r fyfyrwraig gyntaf o’n cwrs Astudiaethau Plentyndod i gael ei phenodi i’r rôl hon a dwi’n ffyddiog y bydd yn mwynhau’r profiad ac y bydd y profiad hwnnw yn sylfaen dda iddi yn ei gyrfa yn y dyfodol.”

Yn ôl Jenna Hughes, mae’n ysu i gael dechrau ar y gwaith darllen: “Roeddwn i mor hapus pan glywais fy mod wedi cael fy newis. Fel myfyrwraig astudiaethau plentyndod, mae gen i wrth reswm ddiddordeb mawr yn yr hyn y mae plant yn chwilio amdano mewn llyfr, beth sy’n apelio atyn nhw a sut ti gynnal eu diddordeb. Mae’r cyfle i ddarllen y llyfrau gwych yma gan awduron mor greadigol fel gwireddu breuddwyd - dwi’n amau taw’r her nawr fydd dewis enillydd a chytuno gydag aelodau eraill y panel”.

Elwyn Jones yw Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru sy’n trefnu gwobrau Tir na n’Og bob blwyddyn.

"Rydym yn falch iawn unwaith eto i groesawu myfyriwr i’n panel beirniadu ac yn arbennig, un sy’n astudio mewn maes mor berthnasol. Mae ysgrifennu ar gyfer plant yn gryf iawn yng Nghymru yn y ddwy iaith ac mae cydnabod y grefft lenyddol arbennig yma yn bwysig i gyhoeddwyr ac i awduron,” dywedodd.

Bydd angen i’r beirniaid ddarllen yr holl lyfrau erbyn diwedd y flwyddyn, gyda’r panel beirniadu yn cwrdd i drafod eu penderfyniad terfynol ym mis Ionawr ac enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2017.

AU31716