Cerrig gleision Penfro a Chôr y Cewri

Côr y Cewri

Côr y Cewri

03 Tachwedd 2016

Y cysylltiad rhwng cerrig gleision gogledd Penfro a Chôr y Cewri fydd pwnc darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Fawrth 8 o Dachwedd.

Traddodir y ddarlith "Chips off the old block - sourcing the Stonehenge Bluestones" gan y daearegydd amlwg Dr Richard Bevins, Ceidwad y Gwyddorau Naturiol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Yn 2015 roedd Dr Bevins yn aelod blaenllaw o'r tîm ddarganfu taw safle ger Carn Goedog ym mynyddoedd y Preseli, Sir Benfro, oedd ffynhonnell cerrig gleision dolerit brith Côr y Cewri

Dair blynedd yn gynharach, yn 2011, adnabu ei dîm ffynhonnell arall o gerrig gleision  Côr y Cewri, ei rhyolitau, fel Craig Rhos-y-Felin, safle sydd hefyd ym mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro, dri chilomedr yn unig o Garn Goedog.

Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth (Daeareg, 1974) a Keele lle cwblhaodd ei ddoethuriaeth, mae ymchwil Dr Bevins wedi canolbwyntio ar graig folcanig igneaidd Caledonaidd yng Nghymru.

Rhwng 1998 a 2006 ef oedd arweinydd y prosiect £33.5m i adeiladu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Cyfarwyddwr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg: “Mae’n bleser gennym groesawu Dr Richard Bevins yn ôl i draddodi y gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd i nodi canrif o addysgu ac ymchwil mewn Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Fel cyn-fyfyriwr o Aber mae Dr Bevins wedi cynnal ei ddiddordebau ymchwil daearegol ac wedi cydweithiodd gydag aelodau staff yr adran ar yr astudiaeth o Gerrig Gleision Côr y Cewri ym mynyddoedd y Preseli, ac wedi darparu mewnbwn gwerthfawr i gynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol i ailddatblygu'r hen Goleg. Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn fydd yn ddi-os yn ddarlith hynod ddiddorol.”

Mae Dr Bevins yn weithgar mewn nifer o gylchoedd academaidd sy'n ymwneud â mwynoleg a daeareg ac mae'n Gymrawd ac Aelod o Bwyllgor Cysylltiadau Allanol Cymdeithas Ddaearegol Llundain, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol yr Ystorfa Ddaearegol Genedlaethol, yn Gymrawd Cymdeithas Mwynoleg Prydain Fawr, yn Gymrawd Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, yn Ddaearegwr Siartredig ac yn Ddarlithydd Anrhydeddus yn Ysgol Gwyddorau Daear a Môr Prifysgol Caerdydd.

Cynhelir y ddarlith am 6.30pm nos Fawrth 8 Tachwedd yn Narlithfa A6, Adeilad Llandinam ar Gampws Penglais. Cyn y ddarlith cynhelir derbyniad diodydd yng nghyntedd adeilad Llandinam am 6.00pm. Estynir croeso i bawb.

AU33216