Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal noson canlyniadau etholiad UDA

Ymgeiswyr arlywyddol Donald Trump a Hillary Clinton.  Llun: Gage Skidmore

Ymgeiswyr arlywyddol Donald Trump a Hillary Clinton. Llun: Gage Skidmore

07 Tachwedd 2016

Bydd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnal sesiwn dros nos arbennig wrth i bobl yr Unol Daleithiau fwrw eu pleidlais Ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2016.

Y disgwyl yw y daw canlyniad yr etholiad i ddewis Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ystod oriau man Ddydd Mercher 9 Tachwedd ac fe fydd academyddion o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol wrth law i roi dadansoddiad arbenigol a sylwebaeth wrth i’r noson ddatblygu.

Caiff Prif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ei haddurno ar gyfer yr achlysur gyda baneri a sgriniau teledu mawr yn dilyn pob cam o’r ras.

Mae’r noson ar agor i holl staff a myfyrwyr y Brifysgol ac fe fydd yn dechrau am 22:00 gyda chyflwyniad ar y Coleg Etholiadol ac elghurhad o sut mae trefn etholiadiau’r Unol Daleithiau yn gweithio.

Yn ystod y nos, y bwriad hefyd yw cynnal sesiynau Skype gydag arbenigwyr a sylwedyddion gwleidyddol yn yr UDA.

Gyda chanolfannau pleidleisio cyntaf yn cau am hanner nos (GMT), bydd darllediadau byw a sylwebaeth cyson ar ddatblygiadau gyda sylw arbennig i daleithiau allweddol fel Fflorida, Philadelphia, Ohio, Gogledd Carolina a Virginia.

Dywedodd yr Athro Richard Beardsworth, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Mae’r ymgyrch yma wedi bod yn un eithriadol ac o gofio bod y canlyniad tebygol dal yn rhy agos i’w alw, mae'n argoeli i fod yn noson hynod ddiddorol. Byddwn ni’n dilyn y canlyniadau wrth iddyn nhw ddod i mewn, gan ddadansoddi’r tueddiadau yn y taleithiau allweddol a thrin a thrafod goblygiadau rhyngwladol yr etholiad. Pa ffordd well o ennyn brwdfrydedd ac addysgu’n myfyrwyr am sut mae democratiaeth yn gweithio mewn gwlad sy’n un o brif chwaraewyr gwleidyddol y byd?"

Daw rhan ffurfiol y noson i ben am 2yb, ond mae croeso i staff a myfyrwyr barhau â'u trafodaethau a dilyn y digwyddiadau trwy gydol y nos, gyda the a choffi ar gael am ddim i gynnal y rhai sy'n dymuno aros.

Bydd staff o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn trydar yn ystod y nos gan ddefnyddio’r hashnodau#EtholiadAmerica a #CaruAber o gyfrif @GwleidAber,.

Sefydlwyd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn 1919 a dyma’r adran gyntaf o'i bath yn y byd.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrywr 2016, mae bodlonrwydd ymhlith myfyrwyr yn 95% sy’n rhoi adran ymhlith y deg uchaf yn y DU o ran gwleidyddiaeth.

Mae'r Adran hefyd yn 7fed yn y DU o ran ymchwil ymhlith adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth  Ymchwil diweddaraf (REF 2014).

Mae gwybodaeth bellach am astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth i’w chael arlein: https://www.aber.ac.uk/cy/interpol.

 

AU33516