Y Gwyll: Tu Ôl i’r Llen

Golygfa o swyddfa heddlu DCI Mathias sy’n rhan o arddangosfa Yn Y Gwyll yn yr Hen Goleg.

Golygfa o swyddfa heddlu DCI Mathias sy’n rhan o arddangosfa Yn Y Gwyll yn yr Hen Goleg.

15 Tachwedd 2016

Bydd gwylwyr Y Gwyll yn cael cyfle i gamu ar set y gyfres dditectif arobryn fel rhan o arddangosfa newydd yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.

Mae golygfeydd cyfarwydd o'r gyfres deledu wedi eu hail-greu’n ffyddlon ar gyfer yr arddangosfa sy'n agor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn 19 Tachwedd, 2016.

Mae’n cynnwys y swyddfa yng ngorsaf yr heddlu sy’n cael ei rhannu gan DCI Mathias (Richard Harrington) a DI Mared Rhys (Mali Harries), yn ogystal ag amrywiaeth o bropiau sy’n cael eu defnyddio gan y tîm.

Ar fachyn yn y gornel, mae’r got goch drawiadol â'i chwfl ffwr sy’n cael ei gwisgo gan DI Rhys a honna’n hongian nesa at un o siacedi niferus DCI Mathias.

Ar hyd un wal mae hysbysfwrdd llawn tystiolaeth ac ymchwil, a map yn dangos yr ardaloedd o Geredigion sydd wedi cael sylw yn y gyfres. 

Mae golygfa llofruddiaeth yno hefyd gyda gwaed ffug ar y waliau, 'corff' ar y llawr a thâp trosedd - y cwbl wedi ei ail-greu gan dîm propiau’r cwmni cynhyrchu annibynnol sydd y tu ôl i'r gyfres, Fiction Factory.

Caiff arddangosfa ‘Yn Y Gwyll’ ei hagor yn ffurfiol nos Wener 18 Tachwedd cyn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r cynhyrchydd Ed Talfan a Chyfarwyddwr Creadigol Fiction Factory, Ed Thomas sy’n Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd y Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Ed Thomas a chriw Fiction Factory nid yn unig am ein galluogi i gynnal yr arddangosfa arbennig hon ond hefyd am y ffordd maen nhw wedi gweithio gyda myfyrwyr o'n Hadran Astudiaethau Ffilm, Theatr a Theledu ers cychwyn cyfres gyntaf Y Gwyll. Maen nhw wedi trefnu lleoliadau profiad gwaith a gweithdai ar eu cyfer, ac mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr bellach wedi cael swyddi gyda’r cwmni cynhyrchu."

“Dyma’r gyntaf mewn cyfres o arddangosfeydd sy’n rhan o’n cynlluniau i ddod â Bywyd Newydd i’r Hen Goleg. Wrth i ni baratoi i ail-gyflwyno’n cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ein gobaith yw y bydd yn amlygu potensial yr adeilad hynod hwn i fod yn ofod arddangos unigryw fydd yn denu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Bydd cyfres o weithdai’n cael eu cynnal ochr yn ochr â’r arddangosfa:

  • 26 Tachwedd 2016 o 11yb tan 12.30yp: Arestio Aberystwyth - gweithdy ysgrifennu creadigol gydag Eurig Salisbury. Bydd y darlithydd o Brifysgol Aberystwyth a enillodd y Fedal Ryddiaith am ei nofel dditectif Cai yn trafod sut mae mynd ati i lunio stori o’r fath yn y dref ger y lli.
  • 3 Rhagfyr 2016 o 11.30yb - 1yp: Investigating Evidence - gweithdy addas i blant a theuluoedd gyda Dr Debra Croft, gwyddonydd fforensig a Chyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth.
  • 3 Rhagfyr 2016 am 2yp: The Science behind Forensics - trosolwg ar rai agweddau ar archwilio man olion tystiolaeth (addas ar gyfer oedrannau hŷn) gyda Dr Debra Croft, gwyddonydd fforensig a Chyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth.
  • 7 Rhagfyr 2016 am 6yh: Born Criminals? Exploring the Physiology of Criminality - seminar cyhoeddus dan ofal Dr Brendan Coyle, darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth.
  • 10 Rhagfyr 2016 am 2yp: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol cyfrwng Saesneg gyda Mary Jacob o Brifysgol Aberystwyth.
  • 11 Rhagfyr 2016 am 12yp: Script to Screen - gweithdy gyda Lucy Gough o Brifysgol Aberystwyth.
  • 14 Rhagfyr 2016 am 6yh: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol cyfrwng Saesneg gyda George Sandifer-Smith, awdur a myfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae mynediad i'r gweithdai am ddim; felly hefyd i’r arddangosfa sydd ar agor i'r cyhoedd 19 Tachwedd tan 22 Rhagfyr 2016, Ddydd Llun - Dydd Sadwrn. Gan fod rhywfaint o’r deunydd sy’n cael ei ddangos yn sensitif, mae gofyn i blant sy’n ymweld fod yng nghwmni oedolyn.

Mae trydedd gyfres Y Gwyll yn cael ei dangos ar S4C ar hyn o bryd am 9yh Nos Sul ac fe fydd y fersiwn Saesneg yn cael ei darlledu ar deledu BBC Cymru Wales yn y Flwyddyn Newydd.

Y Gwyll: Tu Ôl i’r Llen / Behind the Hinterland scenes