Ysgol Gelf Aberystwyth yn nodi canmlwyddiant yr artist o Gymru, John Elwyn

Yr artist John Elwyn

Yr artist John Elwyn

28 Tachwedd 2016

Mae arddangosfa i nodi canmlwyddiant geni’r artist o Geredigion, John Elwyn, yn agor heddiw, ddydd Llun 28 Tachwedd 2016, yn Amgueddfa a Orielau Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Ganwyd John Elwyn yn Adpar, de Ceredigion, lle’r oedd ei dad yn rhedeg melin wlân ar lannau’r afon Teifi, a derbyniodd ei hyfforddiant yng Nghaerfyrddin, Bryste a'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.

Yn ddiweddarach bu’n byw a gweithio yn Hampshire tan ei farwolaeth yn 1997.

Curadwyd yr arddangosfa John Elwyn: ‘A Quiet Sincerity’ gan ei ffrind a’i gofiannydd, yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae John Elwyn yn un o artistiaid mwyaf nodedig Cymru, ac mae ei baentiadau wedi cyfrannu'n sylweddol at y traddodiad tirlun Prydeinig,” dywedodd yr Athro Meyrick.

“Paeintiodd bynciau sy'n adlewyrchu ei dreftadaeth a’i empathi gyda phobl Cymru, eu hiaith a'u traddodiadau cymdeithasol.

“Yn yr un modd â John Constable yn Suffolk, Samuel Palmer yng Nghaint a Graham Sutherland yn Sir Benfro, cafodd John Elwyn ei ysbrydoli gan amgylchedd oedd yn gyfarwydd iddo.

“Mae ei baentiadau yn cyflwyno gweledigaeth heddychlon o fywyd yng nghefn gwlad Ceredigion. Am saith degawd galwodd ar ei brofiad helaeth o fywyd gwaith ar fuarthau a phorfeydd dyffryn Teifi a Ceri.”

Yn 1952 ysgrifennodd yr arlunydd John Petts am John Elwyn gan ganmol ei 'ddidwylledd tawel' a’r ymdeimlad sy’n cael ei gyfleu yn ei beintiadau o 'gariad a thosturi dros ddynoliaeth a’i ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng dynion a menywod â natur, adeiladau, a bywyd bob dydd yng Nghymru.’

Ysgrifennodd ei gyfaill Syr Kyffin Williams RA amdano: 'Roedd John Elwyn yn arlunydd go iawn a oedd yn gwybod beth yr oedd am ei wneud ac a aeth ati yn dawel i’w wneud. Mae safon ei waith wedi sicrhau iddo le parhaol yn hanes celf Cymru. Roedd John yn ddyn clir ei feddwl a oedd yn caru'r hyn a welai yn ei Gymru ef. Carai’r bobl, y ffermydd, y capeli, y ffyrdd troellog a’r caeau bychain a chymen, ac yn rhinwedd ei frwdfrydedd, rhoddodd i Gymru rhywbeth o werth mawr.’

Ychwanegodd yr Athro Meyrick: "Parhaodd John Elwyn yn driw i'w argyhoeddiad. Efallai ei fod wedi peintio tirluniau’r meddwl, ond maent hefyd yn bodoli, gan eu bod wedi’u seilio ar lefydd a sefyllfaoedd go iawn. Mae'r peintiadau yn adlewyrchu ei brofiadau ef ei hun ac o’r herwydd yn adlewyrchu cynhesrwydd ei gymeriad ef ei hun. "

Mae’r arddangosfa John Elwyn: 'Quiet Sincereity’ i’w gweld yn Amgueddfa ac Orielau Ysgol Gelf  Prifysgol Aberystwyth o 28 Tachwedd, 2016 tan 17 mis Chwefror 2017.  Mae ar agor i'r cyhoedd o Ddydd Llun tan Ddydd Gwener rhwng 10yb a 5yp.

Noder y bydd Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol Gelf, sydd wedi’u lleoli yn Adeilad Edward Davies ar y Buarth Mawr (SY23 1NG), ar gau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mynediad am ddim.