Sefydlu canolfan newydd i astudio gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru

Chwith i’r Dde: Torri’r gacen; Dr Taulat Guma, Dr Lucy Taylor, yr Athro Michael Woods, Dr Elin Royles a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn nodi sefydlu Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.

Chwith i’r Dde: Torri’r gacen; Dr Taulat Guma, Dr Lucy Taylor, yr Athro Michael Woods, Dr Elin Royles a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn nodi sefydlu Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.

30 Tachwedd 2016

Sefydlwyd canolfan ymchwil amlddisgyblaethol newydd i astudio gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn cynnwys Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru sydd eisoes yn bodoli, a bydd yn ffurfio cangen Aberystwyth o WISERD, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru.

Bydd y ganolfan newydd yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o’r Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau cysylltiedig sy’n ymddiddori yng Nghymru.

Cynhaliodd y Ganolfan, a fydd yn canolbwyntio ar dair thema gychwynnol, Cysylltiadau Byd-eang; Llywodraethiant, Cyfranogiad a Chymdeithas Sifil; ac Iaith a Hunaniaeth, ei chyfarfod cyntaf ddydd Llun 28 Tachwedd 2016.

Dywedodd yr Athro Michael Woods, Athro Gwyddorau Cymdeithasol Trawsnewidiol a Chyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru;  “Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn ganolog i ethos y Ganolfan, gan ymestyn gweithgareddau poblogaidd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, yn cynnwys Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a digwyddiadau cyhoeddus yn Aberystwyth a ledled Cymru. Bydd aelodau’r Ganolfan hefyd yn rhannu ein harbenigedd trwy gyfraniadau ar y cyfryngau a thrwy gyfryngau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol.”

Mae’r Ganolfan yn gartref i dri phrif brosiect ymchwil sy’n cael eu hariannu yn allanol yn cynnwys canolfan ymchwil WISERD/Cymdeithas Sifil y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), prosiect BYD-EANG-GWLEDIG Cyngor Gwledig Ewrop, a phrosiect IMAJINE Horizon 2020 (Dulliau Integredig ar gyfer Trafod Cyfiawnder Gofodol ac Anghydraddoldeb Tiriogaethol yn Ewrop).

Bydd Dr Anwen Elias yn gyd-gyfarwyddwr ar y Ganolfan gyda’r Athro Woods.

Arweinwyr Thema’r Ganolfan fydd Taulat Guma, Ymchwilydd Cyswllt Ol-Doethurol (WISERD / Cymdeithas Ddinesig), Dr Elin Royles, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Cymru, yr Adran Geowleidyddiaeth Ryngwladol, a Dr Lucy Taylor, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau America -Ladin yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Caiff y Ganolfan ei lansio yn ffurfiol ar nos Fercher 25 Ionawr am 7 yr hwyr yng Nghanolfan y Morlan, gyda chyflwyniadau a thrafodaeth ar ‘Cymru a Brecsit - y Cwestiynau Allweddol’.