Deall y cysyniad o liw

Dr Catherine O'Hanlon

Dr Catherine O'Hanlon

05 Rhagfyr 2016

Mae ymchwil newydd wedi dangos bod plant yn ‘ddall i gefndiroedd’ wrth iddynt ddatblygu cysyniad o liwiau, gan eu bod yn cael anhawster adnabod lliwiau sy’n bodoli ar wahân i wrthrychau.

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Newcastle wedi edrych ar sut mae plant o oedran cyn ysgol yn adnabod lliwiau.

Astudiaeth ymchwil gan Dr Catherine O’Hanlon, Darlithydd Seicoleg Ddatblygol a Niwroddatblygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a gyhoeddir cyn hir yn y cyfnodolyn gwyddonol Developmental Science.

Er bod lliw yn agwedd bwysig o’n profiad gweledol, mae’n aml yn cymryd misoedd o addysgu ac atgyfnerthu cyn bod plant bach yn dysgu sut i ddefnyddio enwau lliwiau yn gywir ac yn gyson.

“Pan mae’n dod i liwiau, mae plant rhwng dwy a phedair oed yn ei chael yn wirioneddol anodd” esbonia Dr O’Hanlon o Adran Seicoleg y Brifysgol. Mae’r geiriau’n cael eu dysgu’n gymharol hwyr, a’r cysyniadau’n datblygu yn hwyrach fyth.” 

Mae’r Athro Jenny Read, Athro Gwyddor Golwg yn Sefydliad Niwrowyddoniaeth Prifysgol Newcastle, a oedd yn gyd-ymchwilydd ar y prosiect, yn egluro cefndir yr ymchwil: “Cefais y syniad am yr astudiaeth wrth edrych ar lyfr gyda fy mab dwyflwydd oed. Gofynnais iddo “Wyt ti’n gallu gweld rhywbeth coch?” ac fe bwyntiodd at wrthrych coch.  Gofynnais iddo “Wyt ti’n gallu gweld rhywbeth gwyrdd?” ac fe bwyntiodd at wrthrych gwyrdd. Yna gofynnais iddo “Wyt ti’n gallu gweld rhywbeth glas?” Ond ni allai ddod o hyd i unrhyw beth glas. Roedd hynny’n dipyn o syndod oherwydd roeddem yn edrych ar forlun ar y pryd; roedd y dudalen bron i gyd yn las!”

Mae Dr O’Hanlon yn egluro: “Dilynodd ein hastudiaeth drywydd hollol newydd i weld a yw plant bach dim ond yn meddwl am liwiau fel rhywbeth sy’n ‘rhan o wrthrych’, ac felly’n cael trafferth meddwl am liwiau fel rhywbeth sy’n bodoli ar wahân i wrthrychau”.

Yn yr astudiaeth dangoswyd detholiad o luniau syml ar fonitor sgrin gyffwrdd i blant rhwng dwy a deuddeg oed, a gofynnwyd iddynt bwyntio at liw penodol. Ym mhob achos roedd y lliw naill ai’n wrthrych ym mlaen y llun, cefndir y llun ei hun, neu’n absennol yn gyfan gwbl. Cofnodwyd patrwm symudiadau llygaid y plant wrth iddynt edrych ar y lluniau.

Gwelodd yr ymchwilwyr bod plant ifanc yn gyflym a chywir wrth bwyntio at wrthrychau o’r lliw dan sylw ym mlaen y llun. Ond pan mai lliw cefndir y llun oedd y lliw dan sylw, byddai’r plant iau yn dweud nad oedd y lliw yn bresennol.

Dangosodd yr astudiaeth bod yna dueddiad cynhenid i ganolbwyntio ar wrthrychau, a’r hyn y mae’r ymchwilwyr wedi’i alw’n ‘ddallineb i gefndir’. Mae hon yn ffenomen hynod sydd heb gael ei nodi o’r blaen, ac mae’r ymchwilwyr yn credu y gallai’r duedd naturiol hon arafu caffaeliad enwau lliwiau a datblygiad y cysyniad o liwiau mewn plant bach.

Yn ddiddorol, er bod y plant ifanc yn canolbwyntio ar wrthrychau ym mlaen y llun pan y defnyddiwyd ansoddair lliw fel ciw ieithyddol, byddai’r effaith dallineb i gefndir yn diflannu pan y defnyddiwyd enwau. Felly, er enghraifft, pe dangosid llun o acwariwm i’r plentyn a gofyn iddo bwyntio at ‘ddŵr’ yn lle ‘glas’, byddai’n troi ei sylw’n gyflym i’r cefndir a phwyntio ato.

Ychwanegodd Dr Catherine O’Hanlon: “Yr ddiddorol iawn, pan mai lliw cefndir y llun oedd y lliw y gofynnwyd i’r plant ddod o hyd iddo, byddent yn gwneud ymdrech wirioneddol i ddod o hyd i’r lliw yn y llun. Mewn gwirionedd, cyn dweud nad oedd y lliw yno byddent yn chwilio am yr un faint o amser ag y byddent pan nad oedd y lliw yn bresennol. Yn y bôn, os mai lliw cefndir y llun oedd y lliw dan sylw, er eu bod yn gwneud eu gorau i chwilio amdano, nid oeddent yn gallu ei ‘weld’”.

Dangosodd yr ymchwil bod yr effaith dallineb i gefndir yn cael ei oresgyn pan fo plant rhwng tua pedair a phum mlwydd oed.

Gellir darllen yr erthygl lawn ar-lein: http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/desc.12478/abstract

I weld Dr Catherine O’Hanlon a’r Athro Jenny Read yn trafod yr ymchwil, gweler: https://www.youtube.com/watch?v=TKO1BPeAiOI


AU26316