Addewidion Aber i fyfyrwyr Cymraeg

Chwith i'r Dde: Hopcyn Matthews, Llywydd y Geltaidd, Elin Sirio Edwards, Swyddog Ail Iaith UMCA, Dr Elin Royles Prifysgol Aberystwyth, Rhun Dafydd, Llywydd UMCA a'r Athro Andrew Evans, Prifysgol Aberystwyth yn lansio Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.

Chwith i'r Dde: Hopcyn Matthews, Llywydd y Geltaidd, Elin Sirio Edwards, Swyddog Ail Iaith UMCA, Dr Elin Royles Prifysgol Aberystwyth, Rhun Dafydd, Llywydd UMCA a'r Athro Andrew Evans, Prifysgol Aberystwyth yn lansio Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.

06 Rhagfyr 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio strategaeth a gweledigaeth newydd ar gyfer ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cafodd y Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg ei lansio Nos Lun 5 Rhagfyr 2016 yn Medrus, Penbryn, ar ddechrau Cinio Nadolig Pantycelyn.

Dyma’r cynllun mwyaf cynhwysfawr o’i fath gan unrhyw brifysgol yng Nghymru.

Mae’n rhestru mewn un ddogfen flaenoriaethau’r Brifysgol ar gyfer ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac yn atgyfnerthu ymrwymiad Aberystwyth i hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. 

Fel rhan o’r cynllun, bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno cardiau Addewidion Aber i bob myfyriwr sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r addewidion yn nodi’r hyn sy’n arbennig am Aberystwyth a sut mae’r Brifysgol yn cynnig profiad Cymraeg cyflawn, yn cynnwys:

  • Cyfleoedd hyblyg i astudio trwy’r  Gymraeg ymhob Athrofa
  • Gwarant o Diwtor Personol Cymraeg
  • Profiad gwaith dwyieithog
  • Gwarant o lety cyfrwng Cymraeg
  • Gwersi dysgu neu wella Cymraeg
  • Aelodaeth UMCA am ddim

Elfen bwysig arall o’r polisi yw peilota Cynllun Trosi unigryw i ddarpar fyfyrwyr sydd naill ai’n siarad Cymraeg fel ail-iaith neu sy’n brin o hyder ac yn awyddus i loywi eu sgiliau yn y Gymraeg.

Bydd y Cynllun Trosi yn seiliedig ar fethodoleg Darpariaeth Trochi Hwyr a ddatblygwyd ar gyfer disgyblion ysgol. 

Bydd yn cynnwys cyfnod preswyl o hyfforddiant ieithyddol dwys ar gampws y Brifysgol yn ystod gwyliau’r haf (ar fodel y Brifysgol Haf).

Yr amcan fydd trosi’r myfyrwyr a fydd yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn fyfyrwyr a fydd yn astudio 5 neu 40 credyd cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth bob amser wedi arwain y sector addysg uwch ym maes darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Beth mae’r cynllun yma yn ei wneud yw sicrhau dilyniant a pharhad o’r hyn rydyn ni eisoes yn ei gynnig tra hefyd yn gosod amcanion uchelgeisiol o ran gwella a thorri tir newydd yn y maes.

“Yn nhermau cyflogadwyedd yn unig, un o ddeilliannau pwysicaf Addysg Uwch, mae llwyddiant arwyddocaol graddedigion sydd wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn dystiolaeth ddigamsyniol o werth y buddsoddiad mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg.”

Mae’r Dr Elin Royles yn uwch ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn Gadeirydd Cangen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Beth sy’n arbennig am y cynllun yma yw ei fod yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio modiwlau drwy’r Gymraeg ym mron pob un o’r meysydd academaidd. Ymhellach, mae  yna ddyfnder darpariaeth sy’n galluogi myfyrwyr i ddilyn cynlluniau gradd cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae’r cynllun academaidd newydd wedi’i groesawu gan Lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Rhun Dafydd: “Dwi’n hynod o falch bod y Brifysgol yn arwain addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac yn profi taw Aber yw’r lle gorau i fyw ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg yn datgan ymrwymiad i ddatblygiad ac i ddyfodol yr iaith o fewn y Brifysgol ac yn genedlaethol. Dwi’n hynod o falch bod aelodaeth am ddim i UMCA yn rhan o’r cynllun sy’n dangos pa mor bwysig yw’r profiad cymdeithasol i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. Ffactor arall sy’n rhan annatod o gymdeithas Gymraeg Aber yw’r gwarant o lety Cymraeg i bob myfyriwr Cymraeg.”