Bywyd newydd i gyfrifiaduron o Aberystwyth mewn coleg yn Nigeria

Chwith i'r Dde: Myfyrwyr PhD Prifysgol Aberystwyth Expo Otu a Edore Akpokodje, David Lowe, Rheolwr Masnachol Argraffwyr Cambrian, a'r Athro Chris Price o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

Chwith i'r Dde: Myfyrwyr PhD Prifysgol Aberystwyth Expo Otu a Edore Akpokodje, David Lowe, Rheolwr Masnachol Argraffwyr Cambrian, a'r Athro Chris Price o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

02 Rhagfyr 2016

Mae cyfrifiaduron o Brifysgol Aberystwyth wedi cael bywyd newydd yn Affrica.

Roedd staff yng Ngholeg Ffederal Technoleg Cynhyrchu ac Iechyd Anifeiliaid yn ninas Jos yn Nigeria yn wynebu'r posibilrwydd o ehangu eu gradd mewn cyfrifiadureg a lansiwyd yn ddiweddar heb ddigon o gyfrifiaduron ar gyfer eu myfyrwyr.

Daeth eu trafferthion i sylw Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol yn Aberystwyth diolch i’r myfyriwr PhD Edore Akpokode.

Edore oedd pennaeth adran Cyfrifiadureg y coleg yn Nigeria cyn dod i Gymru i astudio.

Canlyniad hyn yw bod 60 o gyfrifiaduron sydd wedi eu hadnewyddu ac yn ddigon grymus i redeg y feddalwedd sydd ei angen ar y cwrs, wedi eu hallforio i Lagos, prif ddinas fasnachol Nigeria.

Mae disgwyl iddynt gyrraedd yno ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2016.

Yna, byddant yn cael eu cludo o Lagos i Jos a'u gosod mewn labordy cyfrifiadureg newydd yn y Coleg Ffederal Technoleg Cynhyrchu ac Iechyd Anifeiliaid.

Ar ôl eu hadnewyddu, aethpwyd â’r cyfrifiaduron o Adran Cyfrifiadureg y Brifysgol yn Aberystwyth i Argraffwyr Cambrian yn Llanbadarn Fawr lle’r aeth y staff ati i’w paratoi ar gyfer eu hallforio, a hynny yn rhad ac am ddim.

Dywedodd yr Athro Chris Price: "Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu helpu ein ffrindiau yng Ngholeg Ffederal Technoleg Cynhyrchu ac Iechyd Anifeiliaid yn Jos. Mae'n wych gweld cyfrifiaduron hyn yn cael eu hailddefnyddio at bwrpas addysgiadol da, yn hytrach na’u hailgylchu, fel y byddai wedi bod yn wir yma yn Aberystwyth.

"Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yma yn Aberystwyth am wneud hyn yn bosibl ac i Argraffwyr Cambrian a'n helpodd i bacio popeth ar gyfer y daith," ychwanegodd yr Athro Price.

"Mae'r rhodd o gyfrifiaduron gan Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a hwyluswyd gan yr Athro Chris Price wedi bod yn destun rhyddhad mawr i’m Coleg yn ôl yn Nigeria," meddai Edore.

"Roeddem yn wynebu'r posibilrwydd o beidio â chael digon o gyfleusterau ar gyfer y rhaglen sydd newydd ei lansio. Mae’n gam mawr tuag at gryfhau sylfaen ein hisadeiledd ac yr wyf yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau cydweithrediad hir a ffrwythlon rhwng ein sefydliadau addysg uwch.

"Yr wyf yn diolch o galon i Dave Price (Cyfarwyddwr Seilwaith, IMPACS), Sandy Spence, a rhai o fy nghydweithwyr PhD yn Adran Cyfrifiadureg Aber am eu holl help," ychwanegodd Edore.

Fel rhan o'i ddoethuriaeth, mae Edore yn gweithio gyda'r Athro Price ar y defnydd o ffonau symudol yn Affrica i gynorthwyo ffermwyr i wella ansawdd cnydau amaethyddol.

Bydd Edore a'r Athro Price yn teithio i Nigeria yn Ionawr 2017 fel rhan o'u hymchwil, a’u bwriadu yw ymweld â'r cyfleusterau newydd yn y Coleg Ffederal Technoleg Cynhyrchu ac Iechyd Anifeiliaid yn ystod eu hamser yno.

Sefydlwyd Coleg Ffederal Technoleg Cynhyrchu ac Iechyd Anifeiliaid, Vom, Jos yn 1941 a dyma’r sefydliad addysg uwch cyntaf yng Ngorllewin Affrica i gynhyrchu Milfeddygon graddedig.

Ar hyn o bryd mae gan y coleg ddau gampws ac mae’n cynnig naw rhaglenni academaidd i dros fil o fyfyrwyr.

Yn y llun: Chwith i'r Dde: Myfyrwyr PhD Prifysgol Aberystwyth Expo Otu a Edore Akpokodje, David Lowe, Rheolwr Masnachol Argraffwyr Cambrian, a'r Athro Chris Price o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.